Newid i gyfraith tai (Rhentu Cartrefi)

Fersiwn hawdd ei ddeall o ‘Beth mae Rhentu Cartref yn ei olygu

Mae’r ddogfen yma wedi cael ei hysgrifennu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n fersiwn hawdd ei ddeall o ‘Beth mae Rhentu Cartref yn ei olygu i Denantiaid a Thrwyddedai

Trosolwg

Dyma’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. Mae’n cynnig mesurau amddiffyn gwell i denantiaid a thrwyddedeion, ac yn egluro eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Bellach mae ‘tenantiaid’ a ‘trwyddedigion’ yn cael eu galw yn ‘ddeiliaid contract’. Bydd eich landlord yn rhoi ‘contract meddiannaeth’ i chi yn lle eich cytundeb tenantiaeth neu eich cytundeb trwyddedu.

Mae dau fath o gontract meddiannaeth, sef:

Rhaid iddo hefyd gynnwys gwybodaeth sy’n egluro ystyr a phwysigrwydd y contract.

Gellir cyflwyno contractau ar ffurf papur neu, os bydd deiliad y contract yn cytuno, yn electronig.

  • Contract diogel:

    Defnyddir hwn yn lle’r tenantiaethau diogel a roddwyd gan awdurdodau lleol a’r tenantiaethau sicr a roddwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig;

  • Contract safonol:

    Dyma’r contract diofyn ar gyfer y sector rhentu preifat, ond gall awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ei ddefnyddio o dan amgylchiadau penodol (e.e. ‘contract safonol â chymorth’ ar gyfer llety â chymorth).

Bydd landlordiaid yn anfon ’datganiad ysgrifenedig’ i chi i gadarnhau telerau eich contract.

Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig hwn gynnwys holl delerau gofynnol y contract. Y telerau hyn yw:

  • Materion allweddol:

    Er enghraifft, enwau’r unigolion dan sylw a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract.

  • Telerau Sylfaenol:

    Mae’r rhain yn trafod yr agweddau pwysicaf ar y contract, gan gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer cymryd meddiant o’r eiddo a rhwymedigaethau’r landlord mewn perthynas â gwneud gwaith atgyweirio.

  • Telerau Atodol:

    Mae’r rhain yn ymwneud â’r materion mwy ymarferol, bob dydd sy’n berthnasol i’r contract meddiannaeth, er enghraifft, y gofyniad i roi gwybod i’r landlord os na fydd yr eiddo yn cael ei feddiannu am gyfnod o bedair wythnos neu ragor.

  • Telerau Ychwanegol:

    Mae’r rhain yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion eraill y cytunwyd arnynt yn benodol, er enghraifft, teler sy’n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes.

  • Beth yw’r Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru?
    • Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi gyda’r nod o wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiaid i rhentu cartrefi yng Nghymru. Mae’n cyflwyno nifer o newidiadau i ddeddfau tenantiaeth ac mae’n berthnasol i’r sector rhent cymdeithasol a phreifat. 
  • Pryd fydd yn digwydd?
    • Digwyddodd hyn 1 Rhagfyr 2022.
  • Beth yw pwrpas y Ddeddf Rhentu Cartrefi Cymru?
    • Symleiddo cytundebau a gwella cyflwr cartrefi rhentu Cymru  
    • Cynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd i denantiad a landlordiaid. 
  • Pwy fydd hyn yn effeithio?
    • Pob landlord – preifat a chymdeithasol 
    • Pob tenant – preifat a chymdeithasol 
  • Pam fod hyn yn ddigwydd?

    I wneud pethau’n symlach a haws i landlordiaid a thenantiad rhentu cartrefi yn Nghymru. 

  • Beth sydd yn newid?
    • Terminoleg newydd e.e. Tenantiaeth fel Contract Meddiannaeth â Tenant yn cael eu adnabod fel Deiliad Contract.  
    • Contract Meddiannaeth yn cymrud lle Cytundeb Tenantiaeth. 
    • Mwy o sicrwydd – 6 mis o rybudd ar yr amod nad yw’r contract yn cael ei dorri. 
    • Rhaid i bob cartref fod yn ddiogel – er engraifft larymau mwg sy’n gweithio a phrofion diogelwch trydanol.  
    • Dulliau teg a chyson i ymddygiad gwrth gymdeithasol. 
    • Mwy o hawliau olyniaeth i  basio eich cartref ymlaen 
    • Deiliad Contract yn gallu cael ei ychwanegu neu dynnu heb ddod â chontract i ben. 
    • Landlordiad yn gallu ad-feddiannu eiddo sydd wedi ei adael heb orchymun llys. 

     

  • Beth mae hyn yn ei olygu i mi fel tenant?
    • Symleiddo a gwella hawliau chi fel tenant  
    • Gwella sut mae landlordiaid yn rheoli cartrefi yn Nghymru. 
  • Sut fydd y Ddeddf yn effeithio arna i?
    • Bydd tenanitiad presennol yn derbyn contact o fewn 6 mis o 1 Rhagfyr 2022, fydd yn cymryd lle eich Cytundeb Tenantiaeth. 
    • Bydd tenantiaid newydd o 1 Rhagfyr 2022 yn arwyddo contract yn y ffordd arferol ac o fewn 14 diwrnod.  
    • Mae’r contract yn cynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd i chi. 
  • Ydi cydymffurfio hefo’r ddeddf yma yn mynd i gostio arian i mi neu effeithio ar fy rhent?
    • Na, ni fydd y ddeddf yma yn effeithio ar eich rhent na costio dim i chi.  
  • Fyddai angen neud unrhyw beth?

Mesurau i amddiffyn tenantiaid rhag cael eu troi allan er mwyn dial

Os bydd landlord yn ymateb i gais am waith atgyweirio drwy gyflwyno hysbysiad cymryd meddiant, ni fydd hawl awtomatig mwyach ganddo i gymryd meddiant os yw’r Llys yn fodlon bod y landlord wedi cyflwyno’r hysbysiad er mwyn osgoi gwneud y gwaith atgyweirio.

Cyd-gontractau

Gellir ychwanegu deiliaid contract i gontractau meddiannaeth neu eu dileu ohonynt heb orfod dod ag un contract i ben a dechrau contract arall. Bydd hyn hefyd yn gwneud y gwaith o reoli cyd-gontract yn haws ac yn helpu pobl sy’n dioddef cam-drin domestig drwy ei gwneud yn bosibl i droi’r sawl sy’n cam-drin allan o’r cartref.

Gwell hawliau olynu

Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i bennu olynydd ‘â blaenoriaeth’ ac olynydd ‘wrth gefn’ i etifeddu’r contract meddiannaeth. Drwy hyn, gellir sicrhau y caiff y contract ei etifeddu gan olynydd ddwywaith yn olynol, er enghraifft, gan ŵr neu wraig, ac yna gan aelod arall o’r teulu. Yn ogystal, mae hawl olynu newydd wedi’i chreu i ofalwyr.

Llety â chymorth

Os byddwch yn byw mewn llety â chymorth am fwy na chwe mis, cewch hawl i gael ‘contract safonol â chymorth’. Bydd y contract safonol â chymorth yn gweithio mewn ffordd debyg i’r contract safonol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd eich landlord yn cynnwys telerau sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • y gallu i adleoli deiliad y contract yn yr adeilad;
  • gallu’r landlord i wahardd deiliad y contract o’r annedd dros dro am gyfnod hyd at 48 awr, hyd at deirgwaith o fewn chwe mis.