Galw am agwedd fentrus i gyflawni gweledigaeth cartrefi cymdeithasol Cymru
Mae angen cydweithio agos rhwng cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen uchelgeisiol o fuddsoddi mewn cartrefi cymdeithasol newydd a stoc cyfredol ledled Cymru.
Wrth siarad yng nghynhadledd yr Arweinwyr Diwydiant Tai yng Nghaerdydd heddiw (Dydd Mercher, 1 Gorffennaf), galwodd Iwan Trefor Jones, ein Prif Weithredwr am agwedd fentrus, uchelgeisiol ac arloesol i ddiwallu’r galw cynyddol am dai cymdeithasol a buddsoddi mwy mewn cartrefi cyfredol i fodloni safonau amgylcheddol cenedlaethol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Iwan: “Mae’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi gwneud ymrwymiad clir i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd ledled Cymru erbyn 2030. Mae’r ewyllys gwleidyddol yno, yn ogystal ag ymrwymiad gan gymdeithasau tai i chwarae eu rhan wrth helpu i gyflawni’r uchelgais hon drwy adeiladu tai newydd, i ddiwallu galw clir am dai fforddiadwy.
“Mae angen cydbwysedd rhwng adeiladu tai newydd a pharhau i fuddsoddi yn ein tai cymdeithasol cyfredol ledled Cymru. Dyna pam mae angen sicrwydd am fuddsoddiad hirdymor parhaus ar gyfer y sector tai yng Nghymru.
“Rhaid i ni hefyd weld newidiadau i’r system gynllunio bresennol, i wneud hi’n haws nodi tir ar gyfer datblygu a chyflymu’r broses gynllunio, fel y gellir adeiladu tai newydd ac ychwanegu at y weledigaeth o 20,000 o dai newydd erbyn 2030.
“Ond tra bod gennym restr dymuniadau glir ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae angen i ni edrych ar ein gwaith ein hunain yn y sector. Mae angen i ni fod yn ddewr, uchelgeisiol, arloesol ac edrych ymlaen er lles ein tenantiaid a’n cymunedau ehangach. Bydd hynny’n gofyn am lawer mwy o weithio gyda’n gilydd – a sicrhau bod ein tenantiaid wrth galon yr hyn a wnawn”.
“Rhaid i ni wneud mwy i hyrwyddo cadwyni cyflenwi lleol a chadw’r bunt yn lleol o ran creu swyddi a hyfforddiant a fyddai o fudd i’r economi leol,diwydiannau adeiladu a thai, ond hefyd cryfhau’r iaith Gymraeg trwy greu swyddi yn lleol yn ein cadarnleoedd.
“Mae angen i ni roi mwy o sylw i gyflogaeth a hyfforddiant ledled Cymru – gwella sgiliau ein gweithlu presennol a’r dyfodol. Enghraifft arbennig i ni yn Adra yw ein rhaglen Academi Adra. Mae llawer o’r unigolion sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen gyflogadwyedd a hyfforddiant wedi symud ymlaen i waith llawn amser gyda ni neu gyda’n contractwyr. Mae angen i ni gael cyllid parhaus i greu cyfleoedd fel hyn.
“Mae angen i’n gweledigaeth fynd ymhellach na thai a chefnogi lles ein tenantiaid a sicrhau bod ganddyn nhw dai o ansawdd. Gall y sector gynyddu ei ddylanwad ar faterion fel gofal cymdeithasol, iechyd, economi a’r iaith Gymraeg. Mae’r pethau hyn i gyd yn effeithio ar ein tenantiaid bob dydd ac mae angen llais cryfach, mwy pwerus arnom fel sector.
“Bydd hyn yn helpu i gynyddu ein dylanwad, a gobeithiwn y bydd yn rhoi budd i’n tenantiaid a’n cymunedau”.
