Llun o rhes o bobl yn sefyll o flaen caffi GISDA

Gosod cegin newydd yng nghaffi newydd sbon GISDA

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda TroCymru a Welcome Furniture i helpu i adeiladu cegin newydd ar gyfer GISDA, yr elusen sy’n helpu pobl ifanc agored i niwed, yn eu caffi newydd yng Nghaernarfon.

Cysylltodd TroCymru, cwmni Economi Gylchol a Chynghori ar Garbon, â Welcome Furniture a roddodd gegin a oedd wedi’i gwneud yn lleol gan ailddefnyddio deunyddiau o safon, gan leihau gwastraff, cael effaith carbon a chreu gwerth cymdeithasol parhaol i’r gymuned.

Llun o' gegin gyda chypyrddau

Yna fe wnaethant gysylltu â ni yn Adra i ofyn a fyddai ein gweithlu yn gosod y gegin. Mae’n enghraifft arall o’n hymrwymiad i gefnogi prosiectau sy’n darparu gwerth cymdeithasol gwirioneddol y tu hwnt i dai.

Mae’r prosiect hwn yn arddangos yr hyn y gall gweithio mewn partneriaeth ei gyflawni ac yn tynnu sylw at y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnir trwy gydweithio.