
Gosod y safon (iaith Gymraeg)
Yr wythnos hon, derbyniodd pob cymdeithas tai yng Nghymru reoliadau Safonau’r Iaith Gymraeg sy’n nodi safonau drafft y bydd angen i ni gydymffurfio â nhw pan fyddant yn dod i rym.
Mae’r rhain wedi bod ar y gweill ers peth amser, ond maen nhw yma ac allan i ymgynghori.
I rai cymdeithasau, bydd hyn yn newid sylweddol. Fodd bynnag, mae hwn yn gyfle gwych i’r sector lunio gwasanaethau i denantiaid ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod tenantiaid yn derbyn gwasanaeth yn yr iaith o’u dewis. Ac yn allweddol i hyn mae cydweithio – cydweithio ar draws ffiniau sirol a chymdeithasau tai i rannu syniadau ac adnoddau.
Mae sectorau eraill eisoes yn cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg a bydd y set hon o reoliadau yn golygu y bydd angen i fwy o sefydliadau gydymffurfio – gyda’r nod o gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050
Rydym mewn sefyllfa gref yn Adra gan fod gennym Gynllun Iaith glir ar waith. Mae gennym Siarter Iaith a Hyrwyddwyr Iaith ar draws y sefydliad, gyda chefnogaeth lawn ein Bwrdd, y cyfarwyddwyr a phenaethiaid gwasanaeth.
Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn gwbl ddwyieithog. Mae’n rhan o’n diwylliant. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn hyn ac mae’n ein rhoi mewn sefyllfa gref.
Fodd bynnag, mae lle i wella bob amser a byddwn yn edrych ar y Safonau er mwyn adnabod yr hyn sydd angen i ni ei wneud i wella gwasanaethau ymhellach. Nid yw gorffwys ar ein rhwyfau yn opsiwn.