
Grymuso merched ifanc mewn digwyddiad ysbrydoledig
Roeddym yn falch o fod wedi cynnal ein trydedd ddigwyddiad ar gyfer Merched mewn Adeiladwaith ar gyfer disgyblion blwyddyn 9 yn ein canolfan datgarboneiddio Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes.
Eleni, dewiswyd disgyblion o Ysgol Eifionydd, Ysgol Glan y Môr, Ysgol Tryfan and Ysgol Dyffryn Ogwen. Mi drefnwyd y digwyddiad i ddiddymu stereoteipiau rhywedd ac i annog merched ifanc i archwilio cyfleoedd yn y diwydiant adeiladu, ac mi roedd y digwyddiad yn lwyddiant eithriadol.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfres o weithgareddau diddorol, gan gynnwys plastro, insiwleiddio, isadeiledd a dylunio mewnol, gyda’r holl nod i gyflwyno 60 merch i fyd amrywiol a chyffrous y diwydiant adeiladu. Rydym yn ymrwymedig i feithrin cynhwysiant ac yn bwriadu denu mwy o ferched i mewn i’r sector dai cymdeithasol gan ddangos bod y diwydiant yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i bawb.
Mae sesiynau ymarferol yn well wrth geisio ymgysylltu gyda merched ifanc yn hytrach na darllen prosbectws yn unig. Un o’r sesiynau yn y digwyddiad oedd plastro gyda Charlotte Robinson o Saint Gobain Interior Solutions, ac roedd nifer fawr eisiau trio!
Dywedodd Charlotte: “Mor bod yn ferch yn y byd adeiladwaith yn fy ngrymuso, a does dim rheswm i ferched beidio bod yn y math yma o waith. Hoffwn weld mwy o ferched yn gweithio yn y diwydiant yma”.
Gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, roedd Adra’n falch o weld cynnydd mewn brwdfrydedd gan y cyfranogwyr a’r cefnogwyr. Roedd agenda’r bore yn cynnwys sgyrsiau gan nifer o gyflogwyr, pob un yn arddangos eu hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector adeiladu. Cafwyd 4 sesiwn ymarferol gan Saint Gobain/Webber, Altro, Griffiths a Saer Architects.
Dywedodd Llinos Bracegirdle, ein Cydlynydd Gwerth Cymdeithasol: “Roedd yn freuddwyd gweld 60 merch ifanc yn derbyn y cyfleoedd a’r profiadau hyn ar eu stepen drws. Sefydlwyd Academi Adra i roi cychwyn i bobl ifanc yn y byd gwaith, ac rwy’n falch iawn o ddod â mwy o amrywiaeth i mewn i’r diwydiant adeiladu drwy gynnal digwyddiadau fel hyn.
“Rydym yn parhau â’i ymrwymiad i dorri’r rhwystrau a allai annog merched ifanc rhag dilyn gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu. Drwy gynnig profiadau ymarferol ac arddangos ystod o rolau sydd ar gael, rydym yn anelu at ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr menywod yn y diwydiant.”