Gwahardd paneli solar ‘plygio i mewn’ newydd yn ein tai
Rydym yn hysbysu tenantiaid nad ydym yn caniatau paneli solar ‘plygio i mewn’ newydd sydd rwan ar gael ar y farchnad yn ein tai.
Mae’r penderfyniad i beidio â chaniatáu’r rhain wedi’i wneud ar sail iechyd a diogelwch:
- Y risg o nam trydanol neu orlwytho cylchedau (circuits)
- Perygl tân posibl o offer sydd heb ei gymeradwyo neu sy’n anghyson
- Pryderon am ddiogelwch gosod, yn enwedig gyda cheblau, addasyddion a lleoli unedau.
- Yr angen i sicrhau bod pob system drydanol yn ein heiddo yn cydymffurfio gyda safonau diogelwch ac yn saff i bawb.
Ni fydd tenantiaid yn gallu cysylltu paneli solar cludadwy neu plygio i mewn i gyflenwad trydan eich eiddo o dan unrhyw amgylchiadau. Mae hyn yn cynnwys dyfeisiau sy’n plygio i mewn i socedi safonol neu’n cyflenwi’n uniongyrchol i drydan eich cartref.
Fel landlord, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod pob eiddo yn cyrraedd safonau diogelwch llym. Mae offer trydan anghymeradwy o’r fath yn cyflwyno risg na allwn ei gymeradwyo nac ei rheoli.
Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad i’n helpu i sicrhau diogelwch pawb yn eich cartref.
