Hanner ffordd…
Mae wyth wythnos wedi hedfan heibio ag Enfys a Ianto wedi setlo yn eu lleoliad gwaith Cyflwyniad i Dai gyda ni yma yn Adra.
Mae’r Rhaglen Cyflwyniad i Dai yn gam cyntaf gwerthfawr i unigolion sydd eisiau dysgu mwy am y sector tai, magu profiad ymarferol a gweld y cyfleoedd gyrfa amrywiol sydd ar gael o fewn y maes. Cychwynodd Enfys ei lleoliad gyda’r Tîm Gwasanaethau Cwsmer:
“Pan ddechreuais i’r rhaglen, doedd gen i ddim syniad faint o wahanol gyfleoedd sydd o fewn y byd tai. Mae gweithio gyda thimau gwahanol wedi rhoi hyder i fi, wedi helpu fi ddatblygu sgiliau newydd ac wedi dangos i fi fod modd adeiladu gyrfa go iawn yn y sector. Un o’r pethau mwyaf gwerthfawr i fi oedd gweld y gwahaniaeth mae Adra yn ei wneud i fywydau pobl bob dydd.”
Tra roedd Ianto yn cychwyn gyda adran Rhent.
Dywedodd ei fentor
“Mae wedi bod yn bleser gweld Ianto yn datblygu dros yr wyth wythnos diwethaf. Mae wedi dangos brwdfrydedd, parodrwydd i ddysgu ac agwedd gadarnhaol tuag at bob cyfle sydd wedi’i gyflwyno iddo. Dyna’n union beth mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i’w wneud, rhoi profiadau ymarferol i bobl ifanc lleol, datblygu eu sgiliau a’u helpu i weld y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael o fewn y sector tai.”
Mae’r Rhaglen Cyflwyniad i Dai yn gam cyntaf gwych i unigolion sydd eisiau dysgu mwy am y sector dai a gyrfaoedd posibl o fewn y sector. Mae treulio amser rhwng pedair adran wahanol yn rhoi cyfle iddynt fagu profiad ymarferol a datblygu sgiliau all agor drysau i fyd gwaith yn y dyfodol.
Dyma’r Cynllun cyntaf sydd yn gweithio ar draws chwech Cymdeithas Dai ar draws ogledd Cymru sef, Adra, Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru, Cartrefi Conwy, ClwydAlyn a Wales&West.
Dyweddodd Ceri Ellis-Jackson, Arweinydd Rhaglen Academi Adra:
“Mae’r adborth gan pawb sy’n cymryd rhan a’r timau sy’n eu cefnogi wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol. Beth sy’n gwneud y rhaglen yma yn arbennig ydy’r cydweithio rhwng cymdeithasau tai ar draws gogledd Cymru. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn gallu cynnig profiadau amrywiol a chyfleoedd unigryw i bobl ifanc ddysgu, datblygu ac archwilio llwybrau gyrfa newydd. Mae’n galonogol gweld y rhaglen yn cael effaith mor gadarnhaol ar unigolion a chymunedau ar draws y gogledd.”
Edrychwn ymlaen i’ch diweddaru ar ddiwedd y cynllun i drafod beth fydd nesaf i griw Rhaglefn Cyflwyniad i Dai Academi Adra.
Mae’r Cynllun yma yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a NDA Socio Economic Fund.
