Hyrwyddo Ffrâm24 mewn cynhadledd genedlaethol

Roeddem wrth ein bodd i hyrwyddo Ffrâm24 yn y gynhadledd Arweinwyr Diwydiant Tai a gynhaliwyd yng Nghaerdydd heddiw.

Roedd yn gyfle gwych i amlygu Ffrâm24 fel y Fframwaith arloesol Cymru gyfan sy’n chwyldroi’r maes prynu deunyddiau adeiladu a chynhyrchion cysylltiedig yn y sector cyhoeddus.

Mae ein fframwaith aml-gyflenwr yn sefyll allan am ei effaith gymdeithasol sylweddol, gan gyfeirio buddsoddiad i gwmnïau Cymreig a sicrhau bod y gwerth cymdeithasol a gynhyrchir yn aros yng Nghymru.

Mae Ffrâm24 yn cael ei ddefnyddio gan amrywiaeth o gyrff sector cyhoeddus ac elusennau yng Nghymru.

Braf oedd clywed hefyd gan Siân Gwenllian, y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Tai  a Chynllunio  ac Iwan Trefor Jones, Prif Weithredwr Adra ymysg eraill yn annerch y gynhadledd.

Llongyfarchiadau i’r trefnwyr am ddigwyddiad mor llwyddiannus. Roeddem wrth ein bodd â’r cyfle i gael trafodaethau mor gadarnhaol gyda’r cynrychiolwyr am y Fframwaith a sut y gallent ymgysylltu.