Iwan yn cael ei apwyntio yn aelod o Fwrdd Cynghorol
Mae ein Prif Weithredwr, Iwan Trefor Jones wedi cael ei apwyntio fel aelod o Fwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygiadau Diwydiannol.
Mae’r Bwrdd yn cynghori ar economi Cymru, gan gefnogi amcanion datblygu economaidd Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynglŷn â Chymorth Ariannol ar gyfer Busnesau.
Mae Iwan wedi bod yn Brif Weithredwr ers dwy flynedd ac mae’r gymdeithas yn cyflogi 400 o staff ac yn gyfrifol am ddarparu cartref i dros 18,000 o bobl mewn 7,400 cartref cymdeithasol a fforddiadwy yn y rhanbarth. Bydd Iwan yn parhau gyda’i rôl yn Adra.
Mi ymunodd â ni fel Dirprwy Brif Weithedwr. Cyn hyn, bu Iwan yn Gyfarwyddwr Corfforaethol gyda Chyngor Gwynedd, yn darparu arweiniad strategol i nifer o wasanaethau, yn cynnwys datblygiad economaidd, cynllunio ac adfywio. Y fo oedd hefyd y Cyfarwyddwr Arweiniol i Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, yn arwain ar Gais Tyfiant llwyddiannus ar gyfer gogledd Cymru, gan gydweithio gyda’r sector breifat ar draws y rhanbarth.
Y tu allan i’r gwaith, mae Iwan yn Gadeirydd Gafael Llaw, elusen llwyddiannus sy’n cefnogi plant a phobl ifanc gyda chanser.
Dywedodd Iwan: “ Mae hi’n anrhydedd i mi gael fy newis yn aelod o’r Bwrdd, yn dilyn proses gystadleuol.
“Rwy’n teimlo’n gryf bod angen cynrychioli llais a buddiannau cymunedau yn Llywodraeth Cymru a byddaf yn sicrhau y byddaf yn darparu llais cryf reit wrth galon y Llywodraeth.
“Mae hwn yn gyfle gwych i ddylanwadu polisiau Llywodraeth Cymru ac rwy’n angerddol dros wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a helpu ein cymunedau i ffynnu”.
Dywedodd Sasha Davies, Cadeirydd ein Bwrdd: “Hoffwn longyfarch Iwan ar ei apwyntiad fel aelod o’r Bwrdd.
“Mae gan Iwan gyfoeth o brofiad yn y sectorau preifat a chyhoeddus a gyda’r sgiliau i wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl – yn Adra, Gafael Llaw a thrwy ei gysylltiadau gyda grwpiau cymunedol.
“Mae gan Iwan brofiad cryf o fewn datblygiad cymunedol, yr economi ac adfywio ac mae ganddo gyfoeth o gysylltiadau fydd yn bwysig iawn yn y rôl ychwanegol hon”.
