
Llwyddiant yng Ngwobrau Cyllid Cymru!
Adra yn cipio gwobr Rhagoriaeth Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG) yng Ngwobrau Cyllid Cymru.
Anogwyd ymgeiswyr i gyflwyno naratif cymhellol wedi’i gefnogi gan dystiolaeth ddiriaethol, metrigau, ac enghreifftiau sy’n dangos ymrwymiad eu sefydliad i gynaliadwyedd amgylcheddol, cyfrifoldeb cymdeithasol, a llywodraethu cryf o fewn y sector cyllid.
Dywedodd Rhys Parry, ein Cyfarwyddwr Adnoddau: “Mae’r Wobr hon yn cydnabod ein hymrwymiad i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel a’n hymroddiad i gynaliadwyedd, gwerth cymdeithasol, ac ymgysylltu cymunedol sy’n ein gosod ar wahân fel cymdeithas dai flaenllaw. Trwy fuddsoddiadau strategol mewn datgarboneiddio, effeithlonrwydd ynni, a thechnolegau gwyrdd, rydym yn lleihau ein heffaith amgylcheddol tra’n gwella safonau byw ein trigolion.
“Gyda’n ffocws clir ar lywodraethu rhagorol a rheoli risg, rydym yn cynnal safonau uchel o dryloywder ac atebolrwydd. Mae hyn yn sicrhau bod ein gwasanaethau’n parhau i fod yn unol ag anghenion ein cwsmeriaid a’n cymunedau. Mae ein Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2025-2030 yn dangos y byddwn yn parhau i arwain y ffordd wrth greu dyfodol mwy cynaliadwy, cyfrifol yn gymdeithasol ac yn gynhwysol yn economaidd i’n cymunedau.
“Yn gryno, mae ESG wrth galon popeth rydym yn eu gwneud yma yn Adra, ac mae’r wobr hon yn rhoi’r gydnabyddiaeth haeddiannol i ni ar lefel genedlaethol.”