A photo of the Maes Gwndwn sign and a group of people standing behind it.

Maes Gwndwn, Bethel wedi ei gwblhau

Mae Adra, un o brif ddarparwyr tai fforddiadwy gogledd Cymru, yn falch o fod wedi cwblhau 30 o dai fforddiadwy i bobl leol ym Methel, Gwynedd o flaen amser.

Y contractwyr ar gyfer y datblygiad oedd Williams Homes (Bala) Ltd.

Mae’r datblygiad sydd gyferbyn â Stad Cremlyn ym Methel yn cynnwys 30 o gartrefi modern, gan gynnwys 22 o dai, 4 byngalo, a 4 fflat sy’n gymysgedd o gartrefi rhent cymdeithasol a rhent canolradd.

Dywedodd Owen Bracegirdle, Uwch Reolwr Prosiect Datblygu Adra: “Rydym yn hynod o falch o allu darparu cartrefi o safon i bobl leol, sydd wedi eu cwblhau o flaen amser. Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn yr ardal, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol.

“Mae’r holl dai ar y datblygiad gyda thystysgrif perfformiad egni (EPC) o A, gyda phaneli solar ac yn cael eu gwresogi gyda Phympiau Gwres Ffynhonnell Aer.”

Llun o'r Cynghorydd yn troi'r ruban i agor y stad yn swyddogol.

Agorwyd y stad newydd yn swyddogol gan y Cynghorydd Sasha Williams ar fore dydd Mawrth yr 2il o Ragfyr.

Dywedodd Cynghorydd Sasha Williams: “Roedd hi’n bleser agor Maes Gwndwn yn swyddogol.  Mae wedi bod yn fraint i mi gael bod yn rhan o’r daith i ddatblygu’r tai yma ym Methel a cael y cyfle i gefnogi trigolion lleol.

“Mae’r angen am dai lleol yn ein cymunedau ni yn uchel iawn felly mae gweld trigolion lleol yn cael symud mewn i gartrefi newydd yn arbennig. Mae’r tai gan Williams Homes wedi eu hadeiladu i safon uchel a thechnoleg ddiweddar yn cael ei ddefnyddio er mwyn sicrhau costau cynnal isel i drigolion.

“Diolch yn fawr i Adra a Williams Homes am eu gwaith a’u cefnogaeth i’r gymuned dros y cyfnod adeiladu.  Gobeithio bydd y trigolion yn hapus iawn yn eu cartrefi newydd.”

Ychwanegodd Tony Hughes, Rheolwr Gyfarwyddwr Williams Homes (Bala) Ltd: “Mae hi wedi bod yn fraint  gyd weithio a Adra i adeiladau’r tai yma ym Maes Gwndwn. Tai fforddiadwy mawr ei hangen ym Methel – gobeithio bydd y trigolion newydd yn hapus yn eu cartrefi newydd.”

Ariannwyd y prosiect yn rhannol drwy Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, drwy Raglen Ddatblygu Tai Fforddiadwy Cyngor Gwynedd, gan sicrhau bod y cartrefi newydd hyn yn diwallu anghenion presennol a’r dyfodol trigolion lleol.