“Mi fyddwn ar goll hebddi”
Stori Cynthia a’r gwahaniaeth mae Tai Cefnogol yn ei wneud
Un o drigolion Hafan Elan, Llanrug ydy Cynthia. Maehi wedi byw yno ers blynyddoedd lawer a bellach yn gweld un o’n Swyddogion Tai Cefnogol, Bev yn wythnosol.
Mae problemau iechyd yn golygu na all Cynthia adael ei chartref ei hun erbyn hyn ac er bod ganddi deulu arbennig sy’n ymweld yn rheolaidd mae cymorth a chwmni Bev yn cynnig annibyniaeth ychwanegol iddi.
Yng nghymuned fechan glos Hafan Elan mae Bev yn cynnal digwyddiadau wythnosol i’r trigolion a phobl o du allan i Hafan Elan hefyd. Mae’r caffi ar agor bob amser cinio Dydd Llun a bydd bingo bob dydd Mercher , y ddau yn gyfle wythnosol i gymdeithasu ac i daro ar sgwrs gyda chymydog.
Yn ogystal â hyn bydd Bev yn trefnu digwyddiadau tymhorol adeg y Nadolig,y Pasg, Dydd Gŵyl Dewi, Dydd Mawrth crempog ag ati.
Er mai tafliad carreg o’r ganolfan gymunedol ydy cartref Cynthia, heb gymorth Bev i’w hebrwng yn ei chadair olwyn, fyddai Cynthia methu mynd.
“Mi fyddwn ar goll hebddi”, meddai Cynthia, sydd wrth ei bodd yn chael ymuno yn yr hwyl yn y caffi a bingo.
“Mae cael y pleser o gwmni pobl yn rheolaidd yn werth y byd i mi”
Wrth iddi fwynhau ei chinio gyda chymydog a rhannu jôc eu bod yn cadw llygaid ar ei gilydd o’u cartrefi. Mae Cynthia yn falch iawn o weld Bev yn wythnosol. Mae’n golygu llawer iddi fod cymorth ar gael o’i chartref ac wyneb cyfarwydd i gynnig help llaw neu gwmni dros banad bob wythnos. Heb gymorth Bev byddai llawer llai o gyfleoedd i weld pobl, y tu allan i’w theulu.
Diolch i gefnogaeth Bev, mae Cynthia yn gallu parhau i fyw’n annibynnol yn ei chartref ei hun, wrth deimlo yn rhan o’r gymuned o’i chwmpas.
Darllenwch fwy am ein Tai Cefnogol yma:

