Mynd y filltir ychwanegol i gefnogi tenantiaid a chymunedau
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cynhyrchu gwerth cymdeithasol o £22.9 miliwn i gymunedau ledled Gogledd Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cyhoeddi adroddiad am y flwyddyn diwethaf.
Mae gwerth cymdeithasol yn cyfrifo manteision y mae sefydliad yn eu darparu i bobl a chymunedau, fel hyfforddiant, cefnogi’r economi leol, gwella lles pobl a chefnogi cymunedau i weithio gyda’i gilydd.
Mae enghreifftiau wedi’u cynnwys yn adroddiad y flwyddyn hon yn cynnwys straeon ar sut rydym wedi cefnogi tenantiaid i fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain, digwyddiadau glanhau cymunedol, prentisiaethau hyfforddeion a chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant a gynigir drwy Academi Adra.
Mae’r adroddiad hefyd yn darparu ffeithiau a ffigurau ar sut rydym wedi cefnogi pobl a’r economi leol.
• Ymwelwyd â 263 o unigolion mewn tai â chefnogaeth dair gwaith yr wythnos
• Cynhyrchodd Academi Adra £295,487 o werth cymdeithasol
• Cyflwynwyd 422 taleb banciau tanwydd a 121 taleb banciau bwyd
• Gwnaed 163 o gyfeiriadau i Gyngor ar Bopeth Gwynedd
• Cafodd £49,574,425 ei wario gyda chyflenwyr yng Ngogledd Cymru
• Dosbarthwyd 18 o grantiau cymunedol
• Cynhyrchwyd £436,308 o werth cymdeithasol yn ystod 5 diwrnod amgylcheddol, gan weithio gyda 10 o bartneriaid.
Dywedodd Sasha Davies, Cadeirydd ein Bwrdd: “Rydym yn defnyddio ein hadroddiad blynyddol ar werth cymdeithasol fel cyfle i adlewyrchu ar yr holl waith sydd wedi digwydd i gefnogi ein cwsmeriaid a’n cymunedau i ffynnu.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn bwysig i ni yn Adra, wrth i ni lansio ein Cynllun Corfforaethol newydd.
“Mae llawer o’n prosiectau sy’n ychwanegu gwerth cymdeithasol yn adlewyrchu’r blaenoriaethau a amlygwyd yn ein Cynllun Corfforaethol o ran gwella ein cartrefi; gwneud gwahaniaeth cadarnhaol; creu mwy o gartrefi a meithrin diwylliant ‘un tîm’ o fewn ein sefydliad ein hunain.
“Mae gwerth cymdeithasol yn sylfaen i bob un o’r blaenoriaethau hyn ac mae’n wych gweld sut mae ein gwaith yn cael effaith gadarnhaol yn ein cymunedau”.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Prif Weithredwr: “Mae gennym dîm ymroddgar o staff sy’n gweithio’n ddi-flino i wella ansawdd bywyd ein tenantiaid a helpu ein cymunedau i ffynnu, bob dydd o’r flwyddyn. Ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain.
“Mae cymorth ein partneriaid strategol, contractwyr a’n cymunedau ehangach yn hanfodol. Rydym yn falch o’n partneriaethau amrywiol – mae cydweithredu agos yn creu manteision gwirioneddol i gymunedau.
“’Da ni’n diolch iddyn nhw am wneud cyfraniad cadarnhaol.”
