Llun o tri dyn a dynes yn sefyll mewn rhes o flaen sgrin

Newidiadau i’r Bwrdd

Mae Sasha Davies wedi cael ei hethol yn Gadeirydd y Bwrdd am y bedair blynedd nesaf. 

 

Mae Sasha yn olynu Hywel Eifion Jones, sydd wedi bod yn Gadeirydd ar y Bwrdd ers Hydref 2021. Daeth cyfnod Eifion i ben yn y cyfarfod blynyddol yn Nhŷ Gwyrddfai neithiwr (nos Fercher, 24 Medi).

 

Mae Sasha yn gyfarwyddwraig ei busnes / ymgynghoriaeth ei hun yn arbenigo mewn datblygu busnes a chymuned ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid. Roedd Sasha hefyd yn gwasanaethu fel Pennaeth Masnachol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a chyn hynny yn Bennaeth Datblygiad Strategol Cymru gyda Horizon Nuclear Power.  

 

Rolau eraill y mae hi wedi ymgymryd â nhw yw Cyfarwyddwr Strategol Economi a Lle gyda Chyngor Sir Conwy a Chyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Ynys Ynni Ynys Môn. 

 

Yn y cyfamser, mae Dafydd Edwards wedi cael ei ethol yn is-Gadeirydd; Deiniol Evans yn Gadeirydd y Pwyllgor Cwsmeriaid ac Asedau a Will Nixon yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd