Pan bod symud i gartref llai yn gweithio’n berffaith
“O’r eiliad y cerddais i mewn, meddyliais, ‘o, nefoedd’.”
Geiriau Lesley Roberts oedden nhw, a oedd, ynghyd â’i gŵr William, yn un o’r cyplau cyntaf i symud i mewn fel tenantiaid i fflatiau Plas Leiod yng Nghaernarfon y llynedd.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, penderfynodd William, sy’n dod o Gaernarfon a weithiodd fel gyrrwr ambiwlans, a Lesley sy’n wreiddiol o Landudno ac arferai weithio fel nyrs yn Ysbyty Eryri, symud i gartref llai oedd y dewis cywir iddyn nhw.
“Daethom i gael golwg, a phan welais i’r lle, dywedais, ‘yn bendant’.” meddai Leslie am ei golwg gyntaf ar y fflatiau.
Roedden nhw wedi byw ym Mro Helen yng Nghaernarfon am 37 mlynedd, ‘cul-de-sac’ neis iawn’ fel y disgrifiodd y ddau.
“Roedd Deian, eu mab yn 6 mis oed pan symudon ni yno” roedd Lesley yn cofio.
Ond tua thair blynedd yn ôl, pan ddechreuodd iechyd y ddau ddirywio, dechreuon nhw feddwl am symud i gartref mwy addas. Yn wreiddiol, roedden nhw wedi gwneud cais am fyngalo, gan fod Wiliam wedi datgan bod ‘gorfod mynd i fyny ac i lawr y grisiau i fynd i’r ystafell ymolchi yn dechrau dod yn drafferth’, ond yna awgrymodd eu cynghorydd lleol, Dawn Lynne Jones, y dylen nhw edrych ar Blas Leiod.
O fewn yr wythnos gyntaf o symud i mewn, dechreuon nhw sylwi ar y gwahaniaeth.
“Pethau fel y gawod, mae o’n berffaith i mi. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu dringo i’r bath i gael cawod yn ôl yn y tŷ, ac mae gennym ni lifft, felly does dim mwy o risiau” meddai Wiliam.
Yn ôl yn eu cartref blaenorol roedd ganddyn nhw ardd yr oedden nhw’n falch iawn ohoni ac yn treulio llawer o amser yn gofalu amdani, ond erbyn y diwedd roedd wedi dod yn dipyn o ymdrech i’w chadw.
“Roeddwn i wrth fy modd â’r ardd, ond aeth ychydig yn ormod yn y diwedd, roedd yn dipyn o frwydr” meddai Wiliam.
Nawr, maen nhw’n rhannu gardd gymunedol lle maen nhw, a’r tenantiaid eraill wedi dod ag addurniadau gardd gyda nhw o’u cartrefi blaenorol i’w haddurno.
Mae Lesley wrth ei bodd yn rhan o’r gymuned ym Mhlas Leiod: “Mae pawb yma mor gyfeillgar, ac mae Wiliam yn adnabod pawb o’i waith fel dyn ambiwlans, felly os oes unrhyw beth ymlaen yma, rydyn ni’n ceisio cymryd rhan.”
