Parhau i fuddsoddi mewn cartrefi a phobl
Rydym wedi buddsoddi £17.9 miliwn ar wella ein stoc tai ac wedi adeiladau 180 o gartrefi newydd dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl adroddiad newydd sydd newydd cael ei chyhoeddi.
Mae adroddiad blynyddol y cwmni, gafodd ei chyflwyno yng nghyfarfod blynyddol y cwmni yn Nhŷ Gwyrddfai, Penygroes heno (Medi 30) yn adlewyrchu sut mae’r cwmni wedi cyfrannu at ein Cynllun Corfforaethol a’n blaenoriaethau – gwella cartrefi; gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau tenantiaid; creu mwy o gartrefi a meithrin diwylliant ‘un tîm’ o fewn y cwmni er mwyn cryfhau gwasanaethau i gwsmeriaid.
Erbyn hyn rydym yn rheoli dros 7,500 o dai ar draws Gogledd Cymru ac yn darparu cartref i dros 18,000 o bobl.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod:
- Cartref newydd wedi’i darparu i 632 o bobl.
- 99% o gydymffurfiaeth gyda’r ‘Chwech Mawr’ – diogelwch tân, trydan, nwy, legionella (dŵr), asbestos, lifftiau – yn ogystal â radon.
- 3,524 o becynnau cefnogaeth wedi’i darparu i denantiaid
- 786 o denantiaid wedi derbyn cymorth ariannol
- 217 o unigolion wedi cael eu cefnogi i waith neu hyfforddiant
- 96,000 o alwadau wedi cael ei derbyn gan y Ganolfan Alwadau
- 2,858 o denantiaid wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriadau
- 86% o denantiaid yn hapus gyda’u cymdogaeth fel lle i fyw
- 85% o denantiaid yn teimlo’n ddiogel yn eu cymdogaeth
- 79% o denantiaid yn hapus gyda’r cyfleoedd i ddylanwadu ar benderfyniadau
- £22.9 miliwn o werth cymdeithasol wedi ei greu drwy ein gweithgareddau a’n contractwyr/ partneriaid
- 93% – cyfradd boddhad staff
Dywedodd Sasha Davies, Cadeirydd ein Bwrdd: “Mae’r adroddiad yn gyfle arbennig i ni ddathlu llwyddiannau’r cwmni dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn hynod o brysur wrth i ni ddod i ddiwedd blwyddyn gyntaf ein Cynllun Corfforaethol ac rydym wedi gwneud cynnydd arbennig tuag at cyrraedd ein targedau uchelgeisiol.
“Mae tenantiaid wrth galon popeth rydym yn ei wneud fel cwmni. Maen nhw wedi dweud wrthym ni eu bod nhw am weld mwy o fuddsoddiad yn eu cartrefi ac mae angen mawr am dai newydd ar draws Gogledd Cymru. Rydym wedi ymateb yn bositif i’r galwadau hynny.
“Mae cefnogi tenantiaid gyda chostau byw yn parhau yn bwysig i ni. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu’r cyngor a chefnogaeth rydym wedi ei gynnig i’r rhai sydd mewn angen, yn ogystal â chynnig cyfleoedd hyfforddiant a gwaith er mwyn helpu unigolion i ffynnu.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, ein Prif Weithredwr: “Un o brif heriau’r flwyddyn oedd paratoi ar gyfer arolygiad gan y Rheoleiddiwr a braf oedd derbyn dyfarniad gwyrdd ar gyfer llywodraethu a chyflawni gwasanaethau a hyfywedd ariannol.
“Ni yw’r unig gymdeithas dai gyntaf i gael dyfarniad heb unrhyw argymhellion ar gyfer gwella hyd yma.
“Ond rydym yn gwmni uchelgeisiol lle mae gwelliant parhaus yn rhan o’n DNA. #
“Edrychwn ymlaen at barhau i ddarparu gwasanaethau y gall ein tenantiaid fod yn falch ohonynt”.
