Penodi aelod newydd i’n Bwrdd

Mae Sion Llewelyn wedi’i benodi’n Aelod newydd ar ein Bwrdd.

Mae Sion yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Tryfan ym Mangor, ac mae’n raddedig yn y Gyfraith. Mae ganddo ystod eang o brofiad ym maes gwasanaeth cwsmeriaid, yn ogystal ag yn y diwydiannau twristiaeth a gweithgareddau.

Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys perchen a rheoli hostel teithwyr prysur yng Nghaerdydd, a gweithio ar lefel rheoli mewn nifer o safleoedd twristiaeth adnabyddus yn Eryri a Gwynedd. Mae’n ymrwymedig i bwrpas Adra a’r effaith ystyrlon y mae tai cymdeithasol yn ei chael ar fywydau pobl a’r gymuned. Yn ogystal, mae’n hyrwyddwr balch o’r Gymraeg a chydraddoldeb.

Mae diddordebau Sion yn cynnwys mynydda a cherdded arfordirol, hanes a natur Cymru, yn ogystal â gwylio Cymru’n chwarae rygbi.

Dywedodd Sasha Davies, Cadeirydd y Bwrdd: “Rydym wrth ein bodd fod Sion yn ymuno â’r Bwrdd – mae ei angerdd a’i benderfyniad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau ledled Gogledd Cymru yn amlwg. Mae’n dod â sgiliau a phrofiad gwerthfawr, a bydd yn helpu i gryfhau’r ffocws ar ein cwsmeriaid a’n cymunedau ar lefel y Bwrdd. Edrychwn ymlaen at weithio gydag ef.”

Dywedodd Sion: “Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar i’r rôl hwn, gan obeithio rhoi safbwynt gwrthrychol, adeiladol a ffres i gyfeiriad Adra er lles amgylchfyd a chyfleoedd yn ein cymunedau.”