Rhes o blant yn sefyll mewn rhes yn gwisgo siacedi oren

Plant Ysgol y Felinheli yn cadw cofnod o hanes

Yr wythnos diwethaf fe gafodd y cwmni gyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig iawn draw yn Y Felinheli.

Roedd cwmni Williams Homes Bala Ltd wedi bod draw yn yr ysgol gynradd leol yn cynnal gweithdai adeiladwaith yn un o’r dosbarthiadau ac mi ddechreuodd y syniad o greu ‘capsiwl amser’  ei drafod gyda’r plant.

Aeth y plant ati i gynllunio dyluniad i’r capsiwl amser ac nid yn unig i feddwl beth i’w roi ynddo, ond lle yn union i’w blannu.

Penderfynodd y dosbarth gysylltu gyda ni i ofyn am ganiatâd i’w blannu yn ein stad newydd sbon, Cae Perthi, sydd wedi ei adeiladu dros y ffordd i’w hysgol.

Trefnodd aelodau o’n Tîm Datblygu faint yn union oedd maint y twll oedd ei angen a mynd draw i Gae Perth i’w dyllu’n barod ar gyfer y diwrnod mawr, ac fe aeth aelodau o’n staff draw yno ar y diwrnod i helpu’r plant i’w roi yn ei le cyn tywys y plant o amgylch y tai.

Yn ôl y plant roedd y capsiwl amser wedi ei lenwi gyda eitemau fel y fwydlen ysgol fel y mae hi heddiw, ceiniogau a phapurau pres, erthygl papur newydd y diwrnod hwnw a llun o’r dosbarth.

Bydd plac swyddogol yn nodi dyddiad y capsiwl amser yn cael ei osod yn fuan.

 

Tri o blant yn plannu capsiwl amser