Prif Weithredwr yn galw am fuddsoddiad parhaus mewn tai cymdeithasol
Mae Prif Weithredwr cymdeithas tai Adra wedi galw am fuddsoddiad parhaus yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru i ateb y galw cynyddol am dai.
Mae Iwan Trefor Jones hefyd wedi galw am broses gynllunio symlach i’w gwneud hi’n haws ac yn gyflymach i ddatblygu cartrefi newydd a mwy o gyllid i weithredu rhaglen Safonau Ansawdd Tai Cymru er mwyn gwneud cartrefi yn fwy ynni effeithlon.
Dywedodd Iwan: “Nid yw tai yng Nghymru byth yn bell o’r penawdau ac mae’n cael ei gydnabod bod Cymru yng ngafael argyfwng tai, gyda galw cynyddol am dai fforddiadwy a thai marchnad agored. Mae gan bobl hawl sylfaenol i gael cartref sy’n ddiogel ac yn fforddiadwy, felly mae parhau i fuddsoddi mewn tai yn gwbl hanfodol.
“Nid oes un ateb sy’n addas i bawb ond mae ewyllys clir o fewn y sector tai cymdeithasol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym yn edrych ar ein cyfleoedd benthyca ein hunain fel sefydliadau o ran ariannu datblygiadau, ond credwn fod buddsoddiad parhaus gan Lywodraeth Cymru yn angenrheidiol.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ar gyfer 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i’w rhentu erbyn 2026 ac mae gan gymdeithasau tai rôl i’w chwarae wrth helpu i gyrraedd y targed hwnnw. Ond mae datblygiadau newydd yn dod â’u heriau eu hunain o ran yr angen i adnabod tir ar gyfer datblygu ac ymdrin â phrosesau a gweithdrefnau cynllunio cymhleth. Mae angen i ni weld prosesau symlach a fyddai’n arwain at gymdeithasau tai a datblygwyr yn gallu symud yn gyflymach.
“Mae gennym hefyd heriau sylweddol o ran cynlluniau uchelgeisiol i ddatgarboneiddio ein stoc tai bresennol, gan gynnwys bodloni heriau gweithredu Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023. Byddai’r Safonau hyn yn helpu i wneud ein cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni, ond mae cwestiynau mawr ynghylch ariannu’r rhaglen. Mae pob darparwr tai cymdeithasol wedi cyflwyno eu cynlluniau buddsoddi i Lywodraeth Cymru i’w hystyried, ond mae ariannu’r gwelliannau hyn yn debygol o fod yn her sylweddol a gwirioneddol.
“Mae gan gymdeithasau tai eu rhaglenni uchelgeisiol i fuddsoddi yn eu stoc tai a chartrefi newydd. Mae hyn yn arwain at fanteision ehangach i’n cymunedau lleol drwy gynnig cyfleoedd i gontractwyr a datblygwyr geisio am waith, sydd yn ei dro yn creu swyddi lleol a chadw’r bunt yn lleol. Yn ogystal, mae hyn yn cefnogi’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn ein cymunedau.
“Felly rydym yn galw am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd buddsoddi mewn cartrefi cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn symud ymlaen”.
