Prif Weithredwr yn siarad yng nghynhadledd GISDA
Heddiw, bu Iwan Trefor Jones, ein Prif Weithredwr yn annerch cynhadledd GISDA yng Nghaernarfon.
Dywedodd Iwan: “Roedd hi’n anrhydedd cael fy ngwahodd i siarad yng nghynadledd gwasanaethau pobl ifanc GISDA yn Galeri, Caernarfon yn gynharach heddiw.
“Mae gennym hanes cryf o weithio gyda GISDA ers nifer o flynyddoedd. Mae GISDA, o dan arweinyddiaeth medrus Sian Elen Tomos yn darparu gwasanaeth cymorth rhagorol i bobl ifanc.
“Y rheswm bod y cydweithio mor llwyddiannus yw’r ffaith ein bod yn rhannu’r un gwerthoedd.
“Ac mae ‘na nifer o esiamplau o gydweithio. Ni sydd yn rheoli eu fflatiau yn Nhre Gof, Caernarfon ers 2014 ac mae hwn yn drefniant sydd wedi gweithio’n hynod o dda.
“Rydym hefyd yn cydweithio ar yr agenda sgiliau a chyflogadwyedd – enghraifft wych o sut mae dau sefydliad wedi dod at ei gilydd gyda’u cysylltiadau a’u cryfderau i ddiwallu anghenion pobl ifanc.
“Rydym yn darparu hyfforddiant, profiad gwaith a lleoliadau gwaith â thâl trwy Academi Adra, gyda GISDA yn cyfeirio unigolion ymlaen am gymorth drwy’r rhaglen ac yn darparu arweiniad ychwanegol trwy fentora hirdymor a gweithio i gael gwared o rwystrau i bobl ifanc rhag cael gwaith.
“Esiampl arall o’r cydweithio yw’r prosiect lle mae GISDA a ninnau yn rhan o bartneriaeth i feithrin cysylltiadau rhwng Gwynedd a Chernyw. Mae’r prosiect yn ymchwilio i ganlyniadau’r diwydiant twristiaeth yn y ddau ranbarth, gyda’r ffocws ar ddeall effaith twristiaeth ar iaith, diwylliant a fforddiadwyedd tai i bobl ifanc yn ein cymunedau.
“Yn bendant, mae gweithio gyda’n gilydd yn talu ar ei ganfed ac rydym yn edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o gydweithio gyda Sian a’r tim yn GISDA.”

