Profiadau unigryw trwy bartneriaeth newydd

Mae lleoliad gwaith 16 wythnos Cynnal Tiroedd Academi Adra newydd ddod i ben. 

Roedd lleoliadau ar gael gyda Tai Gogledd Cymru ac am y tro cyntaf erioed rydym wedi cyd-weithio a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol draw yng Nghastell Penrhyn.  Mae’r ddau wedi cael profiadau gwerthfawr ac unigryw o fyd gwaith. 

Cynnal tiroedd oedd canolbwynt y lleoliad gwaith, gyda’r ddau yn gweithio ochr yn ochr â staff profiadol a dysgu sgiliau ymarferol mewn garddio, cynnal a chadw llefydd yn yr awyr agored a gwella amgylchedd lleol. Yn ogystal â datblygu eu sgiliau technegol, cafodd y ddau gyfle i feithrin hyder, gweithio fel rhan o dîm a chael blas ar yrfaoedd posibl ym maes tai, cynnal tiroedd a rheoli ystadau. 

Mae’r Cynllun yn dangos sut mae gweithio mewn partneriaeth fel hyn yn gallu cynnig cyfleoedd defnyddiol sy’n helpu pobl ifanc i ennill profiad, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a chymryd camau positif tuag at gyflogaeth yn y dyfodol. 

 

Cam cyntaf i fyd gwaith

Mae Academi Adra wedi ymrwymo i helpu pobl i fyd gwaith a chynnig profiadau defnyddiol fel hyn. Trwy weithio mewn partneriaethau rydym yn gallu cynnig amrediad o brofiadau gwaith o’r byd go iawn i bobl ifanc fydd yn help iddunhw yn eu gyrfa. 

Dros yr 16 wythnos mae Dafydd a Thomas wedi cael amrediad eang o brofiadau o ddreifio yr RSV i dorri gwair yn ddiogel. 

Dywedodd Ceri Ellis-Jackson, Arweinydd Rhaglen Academi Adra yn Adra: 

“Mae profiadau fel hyn yn gallu agor cymaint o ddrysau i bobl yn eu gyrfa trwy helpu pobl i waith a chyflogaeth a mwy o hyfforddiant.  Rydym yn cyd-weithio a Chymdeithasau Tai eraill ar draws y gogledd yn rheolaidd bellach ond mae’n wych cael ymestyn y cyfleoedd a dylanwad Academi Adra i faesydd eraill. “ 

Ar hyn  o bryd mae Lleoliad Gwaith Adeiladwaith newydd orffen a mae Cwrs Cyflwyniad i Dai wedi cychwyn yn mis Medi. Bydd yn cynnig profiadau cwbwl wahanol i fwy o bobl ifanc yng ngogledd Cymru 

Mae’n bleser hefyd, yn dilyn llwyddiant y lleoliad, cyhoeddi fod Thomas wedi cael ail leoliad gwaith 16 wythnos a bydd yn parhau yng Nghastell Penrhyn. Pob hwyl i ti ar dy ail leoliad Thomas.