11, 12, 27 a 28 Yr Helyg, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8RZ – Wedi gosod
Tŷ pâr yn Sir Conwy
2 2 1


Disgrifiad Llawn:
4 x Tŷ pâr 2 llofft, 4 person ar gael drwy’r cynllun rhent canolraddol yn Bae Colwyn.
Ar gael o Mis Medi 2022 ymlaen.
Mae’r eiddo’n cynnwys :
- Lolfa, cegin, dau ystafell wely hefo en-suite, WC ar y llawr gwaelod ac storfa.
- Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
- Gerddi yn y cefn
- Ardal ar gyfer parcio oddi ar y ffordd
- Ystafell Fyw: 4.48m x 2.67m
- Rheiddiadur, pwynt teledu a ffon
- Cegin a Ystafell fwyta: 4.48m x 2.67m
- Cegin gyda ystod o unedau ac gofodau penodol ar gyfer nwyddau – h.y. rhewgell/oergell, peiriant golchi a peiriant sychu.
- Llofft 1 : Double Bedroom (Front) 3.69m x 3.02m (En- suite 2.26m x 1.36m)
- Llofft 2 : Double Bedroom (Rear) 3.70m x 2.67m (En- suite 2.40m x 1.71m)
Mwy o wybodaeth ar gael drwy gais.
Bydd rhent mis a mis blaen dal angen ei dalu ar dechrau’r denantiaeth. Blaendal = £615.45
Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS).
Mae’n rhaid i’r rhent gael ei dalu mis o flaen llaw drwy Ddebyd Uniongyrchol neu ddull tebyg.
Mae’r denantiaeth yn Denantiaeth Aswiriedig Byrddaliol 6 mis,fydd wedyn yn parhau ar sail misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r denantiaeth, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn/ neu wedi byw neu weithio yn yr ardal / cymuned am y 12 mis blaenorol neu gyda chysylltiad teuluol agos gydag aelod o’r teulu wedi bod yn byw yn y gymuned am o leiaf 5 mlynedd.
Os nad oes digon o ymgeiswyr o’r gymuned leol, yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymunedau cyfagos cyn agor allan i ymgeiswyr o rannau eraill o Gonwy.
Cynllun Rhent Canolraddol
- Mae rhent canolraddol yn opsiwn i bobl sydd ddim mewn sefyllfa i brynu cartref am amryw o resymau megis dim digon o flaendal neu hanes credyd gwael.
- Mae’r cynllun wedi ei anelu at bobl mewn cyflogaeth, ac sydd ddim yn ddibynnol ar fudd-daliadau.
- Gosodir rhent ar lwfans Tai lleol neu 80% o’r rhenti farchnad agored – cyfeiriwch at hysbyseb eiddo gan y gallai hyn fod yn wahanol yn dibynnu ar y landlord.
- Fel rheol bydd angen mis o rent a mis o flaendal – fydd hyn wedi ei nodi ar gwybodaeth marchnata’r eiddo.
- Bydd gofyn i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am eiddo rhent canolraddol gwblhau gweithdrefn gwirio gan y landlord. Mae hyn i sicrhau eu bod yn ddigon sefydlog yn ariannol i gynnal tenantiaeth ar lefel rhent penodedig a’ch bod yn denantiaid addas.
- Ni ddylai fod gan ymgeisydd mwy na £16,000 o gynilion, cysylltwch â ni os ydych angen mwy o wybodaeth.
- Mae’n rhaid i’r aelwyd allu fforddio’r costau tai (gan gynnwys ‘ rhent ‘ ag unrhyw tál gwasanaeth) a dylai’r rhain gyfateb i ddim mwy nag oddeutu 30% o’r incwm gros. (Incwm gros gan gynnwys Credyd treth plant a chredyd treth gwaith) e.e. £25,000 x 30% = £7,500/12 (mis) £ 625pcm-felly byddai’r rhent fforddiadwy oddeutu £625pcm.
Gwneud Cais
Os oes gennych ddiddordeb yn y cartref yma, rhaid cofrestru eich diddordeb gyda Tai Teg.