77 Parc Pentywyn, Deganwy, Conwy, LL31 9FQ – Wedi gosod
Fflatiau yn Sir Conwy
2 1 1


Disgrifiad Llawn:
1 x Fflat fodern 2 ystafell wely, 3 person ar y llawr isaf
Ar gael drwy’r cynllun rhent canolraddol.
Bydd rhent mis a mis blaen dal angen ei dalu ar dechrau’r denantiaeth. Blaendal = £543.18
Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS).
Mae’r denantiaeth yn Denantiaeth Aswiriedig Byrddaliol 6 mis,fydd wedyn yn parhau ar sail misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r denantiaeth, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn/ neu wedi byw neu weithio yn yr ardal / cymuned am y 12 mis blaenorol neu gyda chysylltiad teuluol agos gydag aelod o’r teulu wedi bod yn byw yn y gymuned am o leiaf 5 mlynedd.
Os nad oes digon o ymgeiswyr o’r gymuned leol, yna fe wnawn ystyried ceisiadau o gymunedau cyfagos cyn agor allan i ymgeiswyr o rannau eraill o Gonwy.
Mwy o wybodaeth ar gael drwy gais.
Cynllun Rhent Canolraddol
- Mae rhent canolraddol yn opsiwn i bobl sydd ddim mewn sefyllfa i brynu cartref am amryw o resymau megis dim digon o flaendal neu hanes credyd gwael.
- Mae’r cynllun wedi ei anelu at bobl mewn cyflogaeth, ac sydd ddim yn ddibynnol ar fudd-daliadau.
- Gosodir rhent ar lwfans Tai lleol neu 80% o’r rhenti farchnad agored – cyfeiriwch at hysbyseb eiddo gan y gallai hyn fod yn wahanol yn dibynnu ar y landlord.
- Fel rheol bydd angen mis o rent a mis o flaendal – fydd hyn wedi ei nodi ar gwybodaeth marchnata’r eiddo.
- Bydd gofyn i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am eiddo rhent canolraddol gwblhau gweithdrefn gwirio gan y landlord. Mae hyn i sicrhau eu bod yn ddigon sefydlog yn ariannol i gynnal tenantiaeth ar lefel rhent penodedig a’ch bod yn denantiaid addas.
- Ni ddylai fod gan ymgeisydd mwy na £16,000 o gynilion, cysylltwch â ni os ydych angen mwy o wybodaeth.
- Mae’n rhaid i’r aelwyd allu fforddio’r costau tai (gan gynnwys ‘ rhent ‘ ag unrhyw tál gwasanaeth) a dylai’r rhain gyfateb i ddim mwy nag oddeutu 30% o’r incwm gros. (Incwm gros gan gynnwys Credyd treth plant a chredyd treth gwaith) e.e. £25,000 x 30% = £7,500/12 (mis) £ 625pcm-felly byddai’r rhent fforddiadwy oddeutu £625pcm.
Gwneud Cais
Os oes gennych ddiddordeb yn y cartref yma, rhaid cofrestru eich diddordeb gyda Tai Teg.