Plot 8 – 8 Gwel y Foel, Dinas, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7YQ
Tŷ pâr yn Gwynedd
2 1 1



Disgrifiad Llawn:
Ty 2 ystafell wely ar gael drwy’r cynllun Rhent i Brynu ar gael Haf 2022.
Prif nodweddion y cartref:
- 2 Lecyn parcio oddi ar y lon I pob eiddo
- Ffram goed a wal frics
- Cegin fodern
- System wresogi ASHP a PV’s yn pob eiddo
- Llecyn agored yn rhan o’r stad
Mwy o wybodaeth ar gael drwy gais.
1 mis o daliad rhent i’w dalu o flaen llaw fel blaendal ar ddechrau’r denantiaeth. Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS). Blaendal = £671.42
Mae’r denantiaeth yn Denantiaeth Aswiriedig Byrddaliol 6 mis,fydd wedyn yn parhau ar sail misol. Cyn belled â gedwir at dermau’r denantiaeth, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir
Blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n byw neu weithio yn ardal Sir Gwynedd Os nad oes ymgeiswyr addas yn cyrraedd y meini prawf cysylltiad lleol byddwn yn ystyried pob ymgeisydd cymwys arall.
Cyfamodau
Bydd pob eiddo yn destun cyfamodau a osodir gan y Datblygwr, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
- Rhwymedigaethau mewn perthynas â Waliau Cydrannol a ffensys
- Cyfyngiadau ar barcio
- Cyfyngiadau Defnydd a Galwedigaeth
- Cyfyngiadau a rhwymedigaethau sy’n ymwneud â Gerddi Blaen a Chefn
- Cyfyngiadau ar addasiadau a gwaith adeiladu
- Rhwymedigaethau’n ymwneud â chynnal a thirlunio Coed, Llwyni ac ymylon
- Rhwymedigaethau’n ymwneud â Charthffosydd a Gwasanaethau Eraill, (gan gynnwys cydsynio i Hawddfreintiau)
- Cyfyngiadau ar osod Arwyddion
- Cyfyngiadau ar gadw a bridio Anifeiliaid
- Rhwymedigaethau mewn perthynas â Thâl Gwasanaeth
- Unrhyw rwymedigaethau neu gyfyngiadau ychwanegol eraill fel y’u gosodir gan y Datblygwr.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r rhestr uchod yn derfynol ac mae’n destun newid.
Rhentu i’w Brynu
- Byddwch yn rhentu’r cartref yn y lle cyntaf, a gall gael 25% o’r rhent a dalwyd gennych dros gyfnod y denantiaeth, a 50% o’r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os bydd cynnydd) yn ystod y cyfnod y byddwch yn rhentu’r eiddo – eu defnyddio fel blaendal i gyfrannu at brynu’r eiddo.
- Ar gyfer y cynllun penodol hwn rydym ond yn cyfrifo incwm gros y cartref, nid ydym yn ystyried unrhyw Credyd treth plant a chredyd treth gwaith.
- Bydd eich cytundeb ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn para am bum mlynedd. Gallwch wneud cais i brynu eich cartref unrhyw bryd rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb.
- Am fwy o wybodaeth plis cliciwch ar y linc yma.
- Rydym yn ystyried eich hanes credyd fel rhan o’r cais rhentu I brynu – a posib fyddem yn gofyn am dystiolaeth o’ch adroddiad credyd.
- Mae’r cynlluniau hyn ar gyfer unigolion sydd heb isafswm o 5% o flaendal ond sy’n gallu cael mynediad at forgais
- Petai chi’n penderfynu peidio prynu’r eiddo yna ni fyddwch yn deilwng o dderbyn y 25% sydd wedi ei rhoi o’r neilltu tuag at y blaendal.
Gwneud Cais
Os oes gennych ddiddordeb yn y cartref yma, rhaid cofrestru eich diddordeb gyda Tai Teg.