Plot 55 – 16 Gerddi Edwin, Llai, Wrecsam, LL12 0QT (Ail-osod)
Fflatiau yn Sir Wrecsam
1 1 1




Disgrifiad Llawn:
Fflat 1 ystafell wely ar y llawr gwaelod gyda myndediad annibynol.
Ar gael drwy’r cynllun rhent canolraddol.
Mae’r eiddo’n cynnwys :
- Lolfa /cegin/ystafell fwyta, ystafell gotiau lawr grisiau, 1 llofft ac ymolchfa.
- Gwres canolog nwy
- Ffenestri a drysau gwydr dwbl UPVC
- Ardal ar gyfer parcio 1 car oddi ar y ffordd
- Llofft 1 : 3.92m x 3.15m
Mwy o wybodaeth ar gael drwy gais.
Bydd rhent mis a mis blaen dal angen ei dalu ar dechrau’r denantiaeth. Blaendal = £399.49
Bydd y blaendal yn cael ei gadw o dan delerau’r Deposit Protection Service (DPS)
Mae’r denantiaeth yn Denantiaeth Aswiriedig Byrddaliol 6 mis,fydd wedyn yn parhau ar sail misol. Cyn belledâ gedwir at dermau’r denantiaeth, mae ein hymrwymiad i chi yn un tymor hir.
Meini Prawf Preswylio
Blaenoriaeth 1 – Preswylio / neu deulu agos – Ardal Cyngor Cymuned Llai – Un blwyddyn cyn daliadaeth neu mewn cyflogaeth llawn amser o fewn ardal Cyngor Cymuned Llai am gyfnod o 6 mis cyn y daliadaeth arfaethedig.
Preswylio blaenorol / neu deulu agos – Ardal Cyngor Cymuned Llai – cyfnod o 5 mlynedd di-dor neu cyflogaeth blaenorol o fewn Ardal Cyngor Cymuned Llai am gyfnod o 5 mlynedd
Os nad oes unigolyn yn cyrraedd y gofynion uchod gan Tai Teg ayb ac ar ôl hysbysu / masnacha mewn papur newydd yn ardal Wrecsam am o leiaf 4 wythnos:
Blaenoriaeth 2 –
Fel yr uchod – ond ar gyfer – Gwersyllt, Rosset ac Ardal Cyngor Cymmuned Gresford. (i gynnwys marchnata ychwanegol ayb).
Blaenoriaeth 3 –
Os nad oes blaenoriaeth 1 na blaenoriaeth 2 – ar ôl 8 wythnos – agor i ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Blaenoriaeth 4 –
Os nad oes ymgeisydd yn cymhwyso yn blaenoriaeth 3 o fewn 12 wythnos – yna, bydd unrhyw berson, yn barn Adra neu’r Cyngor sydd a Angen Tai yn cael ei drin fel person cymwys.
Rhent Canolraddol
- Mae rhent canolraddol yn opsiwn i bobl sydd ddim mewn sefyllfa i brynu cartref am amryw o resymau megis dim digon o flaendal neu hanes credyd gwael.
- Mae’r cynllun wedi ei anelu at bobl mewn cyflogaeth, ac sydd ddim yn ddibynnol ar fudd-daliadau.
- Gosodir rhent ar lwfans Tai lleol neu 80% o’r rhenti farchnad agored – cyfeiriwch at hysbyseb eiddo gan y gallai hyn fod yn wahanol yn dibynnu ar y landlord.
- Fel rheol bydd angen mis o rent a mis o flaendal – fydd hyn wedi ei nodi ar gwybodaeth marchnata’r eiddo.
- Bydd gofyn i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am eiddo rhent canolraddol gwblhau gweithdrefn gwirio gan y landlord. Mae hyn i sicrhau eu bod yn ddigon sefydlog yn ariannol i gynnal tenantiaeth ar lefel rhent penodedig a’ch bod yn denantiaid addas.
- Ni ddylai fod gan ymgeisydd mwy na £16,000 o gynilion, cysylltwch â ni os ydych angen mwy o wybodaeth.
- Mae’n rhaid i’r aelwyd allu fforddio’r costau tai (gan gynnwys ‘ rhent ‘ ag unrhyw tál gwasanaeth) a dylai’r rhain gyfateb i ddim mwy nag oddeutu 30% o’r incwm gros. (Incwm gros gan gynnwys Credyd treth plant a chredyd treth gwaith) e.e. £25,000 x 30% = £7,500/12 (mis) £ 625pcm-felly byddai’r rhent fforddiadwy oddeutu £625pcm.
Gwneud Cais
Os oes gennych ddiddordeb yn y cartref yma, rhaid cofrestru eich diddordeb gyda Tai Teg.