
Prosiect Hanner Tymor Tîm Cymunedol
Dros yr hanner tymor roedd ein tîm Cymunedol yn brysur iawn unwaith eto yn trefnu digwyddiadau i blant lleol, y tro yma, i ddisgyblion blwyddyn 7 Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.
Roedd y diwrnodau wedi cael eu trefnu ar y cyd gyda Swyddogion Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd yng Nghyngor Gwynedd, gyda nifer o bartneriaid eraill yn cyd-weithio i gynnal y sesiynau dyddiol.
Roedd pob un o’r disgyblion a oedd yn cymryd rhan yn derbyn brecwast a chinio fel rhan o’r rhaglen.
Ar y diwrnod cyntaf fe ddaeth Billy McBryde o Brifysgol Bangor draw i’r Ysgol i gynnal gwersyll rygbi, yn ogystal â sesiwn pêl-fasged.
Ar yr ail ddiwrnod, fe deithiodd y disgyblion i Barc Menai ble gafodd y plant gymryd rhan mewn gweithgareddau ‘high ropes’ yn y bore, a sesiwn ‘Swimsafe’ yn y prynhawn.
Roedd y sesiwn Swimsafe wedi ei gydlynu gan Byw’n Iach ac wedi ei gyllido gan Actif Gogledd Cymru. Sesiwn oedd hi i adnabod peryglon nofio mewn dwr agored a sut i gadw’n ddiogel.
Dywedodd Billy McBryde:
“Ges i’r fraint o gael fy ngwahodd i un o brosiectau cymunedol Adra.
“Nôd yr wythnos oedd agor drysau i’r disgyblion i’r cyfleoedd sydd yma yng Ngogledd Cymru, ac fel rhan o’n swydd i yn y Brifysgol mae datblygu rygbi yma yng Ngogledd Cymru yn holl bwysig i sicrhau fod y plant yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd yma yn ardal Bangor.
“Diolch i Adra am y gwahoddiad ac i’r disgyblion am fod mor awyddus i ddysgu sgiliau newydd.”