Pump person ifanc yn cychwyn ar leoliadau gwaith adeiladu gyda chymorth Academi Adra

Mae Academi Adra yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a phrofiad yn y diwydiant adeiladu.

Pob lwc i Rhun Pleming, Ben Saunders, Vaughan Chinje, Aled Wyn a Cian Jones sydd yn cychwyn lleoliad gwaith yr wythnos yma am 16 wythnos!

Fe ymrwymodd y pump ar gwrs adeiladwaith Academi Adra mis diwethaf ac ar ôl cael wythnos o hyfforddiant yn Nhŷ Gwyrddfai, fe aethant allan am wythnos o brofiad gwaith. Bu Rhun a Ben gyda OBR Construction, Cian Jones allan gyda Williams Homes (Bala), a Vaughan Chinje ac Aled Wyn allan am wythnos gyda’n Tîm Trwsio ni.

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi helpu’r pump dros y cyfnod yma a gobeithiwn roi diweddariad o’u cynnydd mewn ychydig fisoedd!

Byddwn yn rhannu eu cynnydd dros y misoedd nesaf – cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfle tebyg, edrychwch ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.

 

Llun o Aled o flaen fan pinc Adra