Rhys yn rhoi ei stamp ar ddrama yn yr Eisteddfod
Mae un o’n cyfarwyddwyr wedi ymgymryd â rôl wahanol yr wythnos hon – perfformio mewn drama ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
Mae Rhys Parry, Cyfarwyddwr Adnoddau yn aelod o Theatr Fach, Llangefni ac mae’n rhan o’u cynhyrchiad diweddaraf o’r enw ‘Stamp’, stori sy’n seiliedig ar brofiad Noel Thomas, cyn-bostfeistr o Gaerwen a oedd yn un o’r postfeistri a garcharwyd fel rhan o sgandal Horizon.
Mae’r cynhyrchiad ar daith ar hyn o bryd, gyda pherfformiadau eisoes wedi digwydd yn yr Eisteddfod ar ddwy noson ar wahân yr wythnos hon. Mae perfformiad yr Eisteddfod yn dilyn chwech o sioeau a werthodd allan yn Theatr Fach fis diwethaf, gyda pherfformiadau pellach wedi’u cynllunio dros yr wythnosau nesaf yng ngogledd Cymru.
Yn y cynhyrchiad, mae Rhys yn chwarae nifer o gymeriadau, gan gynnwys cymeriadau Edwin (mab Noel), archwilydd, carcharor a hefyd y cyn Prif Weinidog Tony Blair.
Dywedodd Rhys: “Mae hi wedi bod yn anrhydedd aruthrol bod yn rhan o’r cynhyrchiad hwn.
“Mae stori Noel Thomas wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd ac wedi cyffwrdd calonnau pobl sydd wedi dilyn yr achos o’r cychwyn cyntaf. Mae hi wedi bod yn stori o ddiddordeb cyhoeddus enfawr ac mae hynny’n amlwg o’r niferoedd a ddaeth i weld ein perfformiadau.
“Mae’r ymateb i’r cynhyrchiad wedi bod yn wych ac roedd yn fraint cael Noel yn bresennol yn un o’n perfformiadau fis diwethaf.
“Gobeithiwn ein bod wedi gwneud cyfiawnder â’i stori”.
