Sgyrsiau pwerus am ddigartrefedd a thlodi tanwydd yn yr Eisteddfod

Cynhaliwyd sesiwn onest a chraff ddoe yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ble daeth mynychwyr ynghyd yn Y Sfferen i archwilio’r pwnc poeth o ddigartrefedd a sut mae’r sector tai yn ymateb i dlodi tanwydd yng Nghymru.
Trefnwyd y drafodaeth gan M-Sparc a hwyluswyd gan Olwen Williams, gyda chyfraniadau gan Siôn Hughes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyflawni yn Adra, a Siân Elen Tomos, Prif Weithredwr GISDA. Mae Adra yn ddarparwr tai cymdeithasol blaenllaw yng ngogledd Cymru, tra bod GISDA’n cefnogi pobl ifanc bregus rhwng 14 a 25 oed, yn enwedig y rhai sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
Archwiliodd y sgwrs yr heriau sy’n gysylltiedig â diweddaru cartrefi i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS), gan geisio sicrhau bod pobl yn byw mewn cartref sy’n addas iddynt o ran cysur a’u bod yn fforddiadwy. Mae Gisda yn gweithio gyda darparwyr tai cymdeithasol fel Adra yn ogystal â landlordiaid preifat, gan gydnabod pwysigrwydd y ddau wrth ddarparu cartrefi diogel i bobl ifanc bregus.

Dywedodd Siân Elen Tomos:
“Rydym yn gweithio gyda rhai landlordiaid gwych sy’n gwneud gwahaniaeth mawr drwy ddarparu cartref diogel i’n pobl ifanc. Mae angen mwy o gartrefi un person yng Ngwynedd i ateb y galw rydym yn ei weld.”
Ymatebodd Siôn Hughes gyda chynlluniau Adra:
“Mae Adra wedi ymrwymo i adeiladu 800 o gartrefi newydd yn ystod y 5 mlynedd nesaf ac i fuddsoddi £85m yn ein stoc tai presennol. Rydym yn cydnabod bod angen mwy o gartrefi i fynd i’r afael â’r argyfwng tai ac mae angen i ni fuddsoddi hefyd i sicrhau bod pob cartref rydym yn gyfrifol amdano yn gynnes ac yn cyrraedd y safon.”
Mae Adra hefyd yn rhedeg prosiect o’i ganolfan ddatgarboneiddio ym Mhenygroes, Tŷ Gwyrddfai, sy’n anelu at helpu pobl ifanc ddi-waith i fynd i mewn i waith. Enw’r prosiect ydi Academi Adra, ac mae’r cwrs mwyaf poblogaidd yn ymwneud ac adeiladwaith. Mae llawer o’r mynychwyr yn denantiaid Adra ac yn cael profiad gwaith, gyda rhai yn symud ymlaen i leoliadau gwaith â thâl ac i swyddi. Mae’r diwydiant adeiladu angen mwy o grefftwyr i adeiladu’r cartrefi hyn, ac mae Adra yn edrych ar atebion ymarferol – drwy ddod o hyd i dalent o fewn eu cymunedau.
Daeth y sesiwn i ben gyda sesiwn holi ac ateb bywiog, gan atgyfnerthu pwysigrwydd partneriaeth, arloesedd ac empathi wrth fynd i’r afael â digartrefedd a heriau hinsawdd yn y sector tai.
