Adra a’r iaith Gymraeg

Mae llawer iawn o waith da wedi digwydd i sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal yma yn Adra.

Rydym wedi hyfforddi ac annog staff di-gymraeg i ddysgu’r iaith a sicrhau bod yr egwyddor ddwyieithog wedi treiddio i bob gwasanaeth a ddarparwn.
Ond, mae mwy y gallwn ei wneud. Rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid sydd â diddordeb er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gwrdd â’i tharged uchelgeisiol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ymhlith pethau eraill.

Dyma daflen ddefnyddiol wedi ei chreu gan Gyngor Gwynedd a Hunaniaith sy’n rhoi cyflwyniad i chi i’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd. Cewch wybodaeth am sut i fynd ati i gynnwys y Gymraeg yn eich bywyd i’ch helpu chi setlo a theimlo’n gartrefol yn eich cymuned. Mae’n llawn ystadegau a gwybodaeth ddifyr iawn am y Gymraeg a mudiadau sy’n cynnal gweithgareddau drwy’r Gymraeg. Ewch ati i ddarllen i ddarganfod mwy.

Cyflwyniad i iaith a diwylliant Gwynedd

Mae Adra wedi cyd-weithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu cwrs hunan astudio byr ar gyfer gweithwyr y Sector Tai Cymdeithasol.

Bu Adra yn rhan allweddol o ddatblygu cynnwys y cwrs gan ddarparu geirfa a darluniau i’w cynnwys yn y cwrs.

Cwrs cychwynnol yw hwn i roi blas i bobl o ddysgu’r Gymraeg gan gyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd yn ymwneud â’r byd Gwaith yn y Sector Tai Cymeithasol. Mae’r cwrs ar gael i bawb ac yn rhad ac am ddim ac yn cymryd tua 10 awr i gwblhau.

Dyma linc iddo.  CYRSIAU HUNAN-ASTUDIO BYR | Dysgu Cymraeg

 

Dyma linc i ap cyfieithu Apps – Microsoft Translator

Adra, Cwsmeriaid a’r Gymraeg

Y bobl sydd yn byw yn ein cartrefi yw ein prif ddefnyddwyr gwasanaeth. Maent yn drawstoriad o

  • deuluoedd
  • pobl sengl
  • pobl hŷn a chanran gymharol uchel ohonynt yn oedrannus neu’n anabl.

Gallwn eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd – yn y cartref, yn y gwaith ac yn eu cymunedau.
I gyd-fynd a’n strategaeth twf ac i gyrraedd targedau heriol Llywodraeth Cymru i ddatblygu mwy o dai cymdeithasol, rydym wedi ehangu i gynnwys datblygiadau tai ar draws gogledd Cymru. Wrth symud i ardaloedd llai Cymreig eu natur sef ardaloedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, gallwn ddefnyddio ein dylanwad a’n profiad i hyrwyddo’r iaith yn yr ardaloedd hyn.

Gallwn ddenu eraill ar y daith i ddysgu’r iaith mewn ffyrdd arloesol a chymryd rhan mewn gweithgareddau iaith Gymraeg yn eu cymunedau.

Cynllun Corfforaethol

Un o egwyddorion sylfaenol ein  Cynllun Corfforaethol 2019 -2022 yw ein bod yn hybu’r iaith Gymraeg. Rydym yn cydnabod bod y Gymraeg yn hanfodol i fywyd a diwylliant llawer iawn o’r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt ac yn elfen hollbwysig o’n gwaith. Byddwn felly bob amser yn hybu ac yn annog, cwsmeriaid, staff a phartneriaid i ddefnyddio’r Gymraeg.

I’n cynorthwyo a’n hannog ni i sicrhau bod y Gymraeg wrth galon ein holl waith, rydym wedi llunio’r Siarter Iaith. Mae’n nodi yn syml ein hymrwymiad i’r iaith a’r hyn y byddwn yn ei wneud i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn awyddus i arwain y ffordd a rhannu’r Siarter hon gyda’n partneriaid a’u hannog i ymuno â ni ar y daith i sicrhau bod y Gymraeg yn aros ac yn ffynnu fel iaith fyw ar draws Cymru gyfan.

 

Ein ymrwymiadau i’r Gymraeg

Mae gennym Gynllun Iaith cadarn sydd wedi treiddio i bob agwedd o waith y cwmni.

Mae ein staff yn ymfalchïo yn ein gallu i ymwneud a’n cwsmeriaid yn gwbl ddwyieithog. Gall pawb gysylltu â ni  yn Gymraeg neu Saesneg yn ôl eu dewis personol. Cymraeg yw ein iaith weinyddol fewnol ac rydym yn siarad gyda’n cwsmeriaid mewn Cymraeg clir y mae’n nhw yn ei ddeall. Mae staff yn cael cyfleoedd hyfforddiant i ddatblygu a gwella eu sgiliau a hyder ieithyddol yn y Gymraeg.

Rydym yn aros yn eiddgar am gyhoeddiad ynglŷn â phryd y bydd safonau’r Gymraeg yn cael eu gosod ar Gymdeithasau Tai. Yn y cyfamser, rydym am i unrhyw Gymdeithas Dai neu Fusnes Preifat weithio efo ni a rhannu arfer da. Er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael y parch haeddiannol o fewn ein busnesau a bod ein cwsmeriaid yn ymwybodol o’n llwyr ymrwymiad i’r iaith a’i dyfodol.

Ein Siarter Iaith

Rydym wedi datblygu’r Siarter i’n galluogi i arddangos ymrwymiad clir i’r iaith Gymraeg. Mae’n nodi beth fyddwn ni yn ei wneud i sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle haeddiannol yn ein cwmni a’i fod yn treiddio i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Cymraeg yw ein iaith gwaith a dyma sut y byddwn yn sicrhau bod yr egwyddor yma yn rhan greiddiol o’r cwmni.

• byddwn yn cadw at holl ymrwymiadau ein Cynllun Iaith gan sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.

• byddwn yn sicrhau bod dulliau ymarferol ar waith i sicrhau y gall ein cwsmeriaid a darpar gwsmeriaid ymwneud â ni drwy gyfrwng y Gymraeg.

• byddwn yn agored a thryloyw mewn perthynas â’n perfformiad ar faterion iaith Gymraeg drwy fonitro ac yn adrodd ar gydymffurfiaeth Adra gyda’i Gynllun Iaith yn flynyddol. Bydd hwn ar gael i’n holl gwsmeriaid ei weld.

• byddwn yn penodi Pencampwyr Iaith Gymraeg ar Fwrdd Adra i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn amlwg ar agenda strategol y cwmni.

• byddwn yn creu Gweithgor Iaith cynhwysol o blith staff Cymraeg, dysgwyr a’r rhai di-gymraeg i gynorthwyo’r cwmni sicrhau bod y Gymraeg yn flaenllaw yn y gweithle.

• byddwn yn ei gwneud hi’n hawdd i gwsmeriaid a’r cyhoedd gyflwyno unrhyw gŵyn i ni mewn perthynas â’r Gymraeg ac yn dysgu gwersi o unrhyw gamgymeriadau a wnawn.

• byddwn yn defnyddio ein rôl fel darparwr tai mewn ardaloedd di-gymraeg i fod yn hybu’r iaith yn y ffordd gorau y gallwn ni.

• byddwn bob amser yn hybu ac yn annog cwsmeriaid, staff a phartneriaid i ddefnyddio’r Gymraeg gan ein bod yn cydnabod bod y Gymraeg yn hanfodol i fywyd a diwylliant llawer iawn o’r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt ac yn elfen hollbwysig o’n gwaith.

• byddwn yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r targed uchelgeisiol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

• byddwn yn gweithio gydag eraill i rannu arfer da mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg

Beth am fynd at i Ddysgu Cymraeg?

 

Y ffordd fwyaf poblogaidd yn y byd o ddysgu Cymraeg ar-lein yw defnyddio App Duolingo

Gallwch ddysgu Cymraeg gyda dim ond 5 munud y dydd gyda gwersi tebyg i gêm.

Mae’n addas i ddechreuwyr sydd am ddysgu’r pethau sylfaenol neu unrhyw un sydd eisiau ymarfer sgiliau darllen, ysgrifennu a siarad.

Cliciwch ar y siop app o’ch dewis i lawrlwytho’r app Duolingo