Sicrhau £20m gan Principality Commercial
Rydym wedi sicrhau £20m mewn cyllid gan dîm masnachol y Principality i gefnogi ein rhaglen ddatblygu ac i fuddsoddi yn ein stoc dai presennol ar draws y rhanbarth.
Rydym yn darparu cartrefi fforddiadwy a gwasanaethau cymorth i gymunedau ar draws y rhanbarth. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cartrefi o ansawdd uchel, cynaliadwy ac i wella bywydau pobl leol trwy fuddsoddi mewn tai a menter gymunedol.
Bydd y cyfleuster ariannu newydd gan Principality yn ein cefnogi i wella ansawdd a chynaliadwyedd ein heiddo presennol, yn ogystal â darparu dros 200 o gartrefi fforddiadwy ar draws Gogledd Cymru, yn cynnwys y cynllun 23 o dai yng Nghae Perthi, Y Felinheli.
Mae’r bartneriaeth yn nodi’r trafodiad cyntaf gennym ni gyda chyllid masnachol Cymdeithas Adeiladu’r Principality, ac yn adlewyrchu ymrwymiad cydweithredol i gefnogi cymunedau a chynyddu mynediad at dai o ansawdd da a fforddiadwy ledled Gogledd Cymru.
Wrth ymateb i’r bartneriaeth gyda ni, dywedodd Richard Wales, Cyfarwyddwr Cyllid Masnachol Cymdeithas Adeiladu’r Principality:
“Rydym yn falch o gefnogi Adra gyda chyllid i helpu darparu mwy o gartrefi fforddiadwy a buddsoddi mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.
“Fel benthyciwr Cymreig, rydym yn falch o weithio gyda sefydliadau sy’n rhannu ein hymrwymiad i greu tai cynaliadwy o ansawdd uchel a chefnogi cymunedau lleol. Edrychwn ymlaen at adeiladu ein perthynas gydag Adra a chefnogi ei chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.”
Wrth siarad am y bartneriaeth, dywedodd Rhys Parry, ein Cyfarwyddwr Adnoddau: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau ein cyfleuster benthyca cyntaf gyda Principality. Mae’r cam hanesyddol hwn yn nodi cam pwysig wrth gryfhau ein gallu ariannol i ddarparu tai ychwanegol, wrth barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau o ansawdd uchel i’n cymunedau ledled Gogledd Cymru.
“Mae’r cyfleuster benthyca newydd hwn gan Principality wedi galluogi ni i gyflawni cynllun o 23 tŷ yn llwyddiannus yng Nghae Perthi yn Y Felinheli. Mae’r buddsoddiad hwn yn nodi cyflawniad allweddol gan ein bod bellach yn berchen ac yn rheoli dros 7,500 o dai.
“Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar ein partneriaeth gref gyda’r Principality, wedi’i seilio ar werthoedd rydym yn ei rannu ac ymrwymiad cydweithredol i gefnogi ein cwsmeriaid a’n cymunedau”.
Dywedodd Alex Morgan, Cyfarwyddwr yn Ymgynghorwyr Ariannol Savills: “Ar ôl rownd ariannu llwyddiannus dros ben, rydym wrth ein bodd o allu cyflwyno Cymdeithas Adeiladu’r Principality i bortffolio benthyciadau Adra. Mae’r cyfleuster yn cynnig llawer o hyblygrwydd ochr yn ochr â ymrwymiad tymor hwy, sef cydbwysedd oedd yn nod allweddol y ymarfer.”
Mae Principality Commercial yn benthyca ledled Lloegr a Chymru, gan ddarparu cyllid ar gyfer cynlluniau buddsoddi a datblygu yn y sector masnachol a thai, gan gynnwys cefnogi cymdeithasau tai.

