Photo of Jordan with his foster parents, standing by a river.

Stori Jordan: Canfod Cartref ac Ysbrydoli Eraill i Faethu

Gan ei bod hi’n Bythefnos Gofal Maeth roedd Jordan, a wnaeth adael Adra yn ddiweddar, eisiau rhannu ei stori o dyfu fyny fel plentyn mewn gofal maeth, gan obeithio ysbrydoli eraill i faethu.

Y Siwrnai Trwy Ofal Maeth

Treuliais fy mywyd cyfan mewn gofal, ac mae’r daith honno wedi llywio’r person ydw i heddiw. Fel plentyn, roedd symud rhwng teuluoedd maeth yn anodd ac yn llawn ofn. Roeddwn i’n hiraethu am le sefydlog i alw’n gartref go iawn. Mae plant yn haeddu teimlo’n ddiogel a gwybod i le maen nhw’n perthyn.

Er gwaethaf yr holl newid ac ansicrwydd, roeddwn i’n lwcus. Cefais ofalwyr maeth arbennig iawn a agorodd eu cartref a’u calonnau i mi. Rhoddodd y bobl garedig yma nid yn unig do dros fy mhen, ond hefyd yr hyder i gredu y gallwn i gyflawni pethau da yn fy mywyd.

Trwy eu cymorth a’u hamynedd, dysgais nad oes rhaid i’r pethau anodd a ddigwyddodd yn y gorffennol bennu ein dyfodol. Fel pob plentyn, roeddwn ni yn bell o fod yn berffaith; roeddwn yn cael diwrnodau da a diwrnodau drwg. Weithiau roeddwn i’n drist, weithiau yn flin, ac weithiau yn ofnus.

Realiti Bywyd Teulu Maeth

Gallai byw gyda theulu maeth fod yn heriol i bawb – i’r gofalwyr ac i’r plant. Yr hyn roedd pawb ei angen oedd cariad, amynedd a dealltwriaeth. Dysgais fod sefydlogrwydd yn cymryd amser ac yn gofyn am ymdrech gan bawb. Mae’r bobl o’n cwmpas yn ein helpu i dyfu’n gryfach, ac mae pob profiad positif yn helpu i wella clwyfau’r gorffennol.

Heb y gefnogaeth a gefais gan fy ngofalwyr maeth, fyddwn i byth wedi mynd ymlaen i’r coleg nac wedi cael swydd dda fel sydd gen i erbyn hyn. Roeddent yn creu ynof i ar adegau pan nad oeddwn yn credu ynof fi’n hun. Roeddynt yn gweld person ifanc gyda dyfodol disglair o’i flaen a dim ‘plentyn mewn gofal’.

Er fy mod bellach yn byw’n annibynnol, mae’r cartref hwnnw dal i fod yn le arbennig i mi – y lle dwi’n dychwelyd iddo am ginio dydd Sul, lle dwi’n teimlo cynhesrwydd a chroeso bob tro. Mae hyn yn dangos effaith pwerus, parhaol cartref sefydlog, gofalgar.

Defnyddio Fy Mhrofiad i Helpu Eraill

Heddiw, fel oedolyn, rwy’n falch o fod yn rhan o’r Panel Maethu ac i weithio gyda Maethu Cymru. Mae fy mhrofiadau fel plentyn yn fy helpu i ddeall beth mae plant mewn gofal gwir ei angen. Gallaf rannu fy safbwynt i helpu i sicrhau bod plant mewn gofal heddiw yn cael y gefnogaeth orau bosib.

Dwi’n gwybod beth ydi’r teimlad o gyrraedd cartref newydd gyda’ch bag bach o eiddo, gan obeithio y bydd y teulu yma yn un da ac yn un lle gallwch aros. Dyma pam mae rhannu fy stori, yn enwedig yn ystod Wythnos Maethu ym mis Mai, mor bwysig. Rwyf eisiau helpu i godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli eraill.

Rwy’n sôn am fy mhrofiadau nid i gael cydymdeimlad, ond i ddangos y gwahaniaeth gwirioneddol y gall gofalwyr maeth da ei wneud. Gall gofalwyr maeth fod yn sêr disglair mewn bywyd tywyll, gan roi gobaith a chariad i blant sydd wedi llawer iawn gormod o boen.

Pwysigrwydd Cefnogaeth Gymunedol

Mae magu plentyn yn waith tîm, ac mae pob cyfraniad, boed yn fach neu’n fawr, yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Mae’n arwyddocaol bod Adra bellach yn gyflogwr sy’n cefnogi maethu. Mae hyn yn dangos faint rydym yn gwerthfawrogi gofalwyr maeth ac yn annog eraill i ystyried y gwahaniaeth gwirioneddol y gallent ei wneud i fywyd plentyn. Credaf yn gryf y dylai mwy o weithleoedd gefnogi gweithwyr a thenantiaid sy’n dymuno maethu. Mae angen i gwmnïau a sefydliadau gydnabod pwysigrwydd darparu cartrefi cariadus i blant mewn angen. Gyda chyflogwyr hyblyg a chefnogol, bydd mwy o bobl yn gallu cynnig cartref i blentyn sydd ei angen.

Yr Effaith Gwerthfawr

Rwyf eisiau pwysleisio nad yw bod mewn gofal yn rhwystro llwyddiant. Byddaf yn dechrau swydd newydd yn y maes digidol yn M-SParc cyn bo hir – cyfle na fyddwn i byth wedi’i ddychmygu ei gael fel plentyn. Mae hyn yn dangos beth all ddigwydd wrth gael y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn. Mae pawb yn haeddu cyfle i lwyddo, ac mae gofalwyr maeth da yn agor drysau i ddyfodol gwell.

Dyma wir wobr maethu: y gallu i helpu person ifanc i oresgyn heriau, canfod sefydlogrwydd, a chreu cyfleoedd ar gyfer dyfodol mwy disglair.