Academi Adra
Mae Academi Adra yn dod a’r nifer o gyfleoedd y gallwn eu darparu drwy Adra a’n partneriaid i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau a dod o hyd i waith.
Pa gyfleoedd allwch chi eu cynnig?
Gan weithio gyda’n partneriaid, gallwn gynnig profiad gwaith, lleoliadau gwaith, prentisiaethau, hyfforddeiaethau, cyfleoedd gwirfoddoli a llawer mwy. Rhowch wybod i
ni beth fyddai gennych ddiddordeb ynddo a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r bobl iawn.
Os ydych yn bwriadu gwneud rhai newidiadau yn eich llwybr gyrfa gallwn eich cefnogi. Gallai hyn fod trwy eich helpu chi chwilio am gyfleoedd:
- cyflogaeth
- hyfforddiant
- cychwyn eich busnes eich hun
- magu hyder
Rydym eisiau helpu i gynnig cyfleoedd i’n cwsmeriaid trwy ddarparu cefnogaeth i chi fel y gallwch:
- fod yn hyderus wrth chwilio am waith
- dod o hyd i brofiad gwaith
- gwirfoddoli
- datblygu sgiliau newydd
Gall fod yn amser anodd a heriol i chi ond mae help ar gael.
Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i gynnig ystod o wasanaethau a allai fod o fudd i chi.
Prentisiaethau
Mae nifer o bobl yn gweithio i ni fel prentisiaid.
Maent yn mynd i’r Coleg un diwrnod yr wythnos ac yn gweithio i ni, gan ennill cyflog am weddill yr wythnos.
Un o’r rhain yw Iwan sydd yn y fideo, cychwynodd ei yrfa gyda ni fel prentis a bellach yn gweithio i ni llawn amser.
Poeni am golli eich gwaith?
Os ydych chi’n poeni y byddwch chi’n colli’ch swydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod eich hawliau am wyliau, yr hawl i dalu a llawer mwy.
Darllenwch am eich hawliau os cewch eich diswyddo
(erthygl Saesneg yn unig)
Cymorth digidol
Gallwn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau i fynd ar-lein fel y gallwch weld pa gyfleoedd ychwanegol sydd ar gael i chi.
Gall gael mynediad at wasanaethau digidol fel y we eich helpu mewn sawl ffordd.
Gall y prosiect Tech Angels helpu i roi cefnogaeth 1 i 1 i
- wella’ch sgiliau
- cysylltu â ffrindiau a theulu
- cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau hanfodol
Efallai eich bod wedi defnyddio rhywfaint ar y we neu efallai nad ydych wedi bod ar y we o gwbwl, gall Tech Angels eich helpu dim bwys lle bynnag rydych yn cychwyn.
Os hoffech wneud cais am gymorth digidol, rhowch eich manylion yn y ffurflen isod.
Sut i gael cefnogaeth
Cysylltwch ag aelod o’n tîm i gychwyn ar eich taith trwy lenwi’r ffurflen hon neu ffoniwch 0300 123 8084.