Gwirfoddoli

Dyma pryd y dewiswch roi eich amser a’ch egni i fod o fudd i bobl eraill heb gael eich talu amdano.
Gallech wirfoddoli gydag unrhyw fath o sefydliad, gan gynnwys:

  • elusen, sefydliad gwirfoddol neu grŵp cymunedol
  • sefydliad sector cyhoeddus, fel eich awdurdod lleol neu ysbyty
  • menter gymdeithasol sy’n cefnogi’ch cymuned leol
  • busnes lleol

Beth yw barn cyflogwyr?

Rhai ffeithiau gan gyflogwyr:

  • nododd 70% o gyflogwyr y byddent yn cyflogi rhywun sydd â phrofiad gwirfoddoli dros rywun sydd heb wirfoddoli
  • mae 94% o gyflogwyr yn credu y gall gwirfoddoli ychwanegu at sgiliau

 

Pam Gwirfoddoli

Mae llawer o fuddion o wirfoddoli. Buddion i chi ac eich cymuned leol. Buddion yn cynnwys:

  • datblygu eich hyder
  • darganfod diddordebau newydd
  • cyfarfod pobl newydd
  • dysgu sgiliau newydd
  • cryfhau eich CV
  • cael hwyl

Taith gwirfoddoli Cheryl

Mae Cheryl yn gweithio gyda ni yn Adra llawn amser ond yn ystod y cyfnod clo penderfynodd wirfoddoli a rhedeg y banc bwyd lleol gyda’i gŵr.

Daeth y gymuned leol ynghyd a rhoddodd busnesau a thrigolion fwyd a nwyddau hanfodol eraill i’r banc bwyd. Roedd rôl Cheryl yn cynnwys mynd o gwmpas yn casglu nwyddau, gwneud bagiau bwyd i bobl leol a oedd yn defnyddio’r banc bwyd a gwneud cais am grantiau gan fusnesau i helpu i redeg y banc bwyd.

“Fe wnes i fwynhau fy amser yn gwirfoddoli yn fawr, rwy’n credu iddo wneud i mi deimlo fy mod wedi rhoi rhywbeth yn ôl i’m cymuned leol a fy mod yn gwneud gwahaniaeth go iawn’

Rhoddodd y cyfle hwn gyfle i Cheryl gyfarfod a dod i adnabod pobl newydd yn ei thref leol a chydweithio ag eraill mewn cyfnod anodd iawn.

Taith gwirfoddoli Kim

Penderfynodd Kim wirfoddoli yn ystod y cyfnod clo i helpu i ddosbarthu meddyginiaeth i bobl yn ei phentref a oedd yn cysgodi. Sefydlodd y pentref raglen a alluogodd gwirfoddolwyr i gasglu presgripsiwn o’r fferyllydd a’i adael ar stepen y drws.

Dywedodd Kim: “Roedd gen i ddigon o amser rhydd gan fy mod yn gweithio gartref a pob digwyddiad cymdeithasol wedi ei ganslo, felly penderfynais ddefnyddio fy amser yn gall. Roedd yn deimlad da bod yn rhan o rywbeth mor anhygoel yn fy mhentref fy hun. Roedd mwyafrif y bobl y gwnes i eu helpu yn oedrannus ac yn gwerthfawrogi fy help yn fawr. Byddwn yn bendant yn argymell unrhyw un i roi ychdyig o oriau i wirfoddoli, mae cymaint o fuddion. ”

Sut mae gwirfoddoli

Rydym yn gweithio gydag asiantaethau lleol a all eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal.

Cysylltwch â ni i aelod o’r tîm allu eich helpu

Cysylltu â ni