Tai, gofal a chymuned yn dod at eu gilydd

Mae hi’n ddwy flynedd ers i’n cartrefi newydd yn Fron Deg, Pwllheli agor i’n tenantiaid. Gwenda oedd un o’r cyntaf i symud fewn i’r 28 o fflatiau annibynnol, gawsom ni sgwrs efo hi i adlewyrchu ar ei chyfnod yna hyd yma. 

“Dwi wrth ym modd yma”meddai Gwenda. 

Mae Gwenda yn cael cefnogaeth Nia, ein Warden, tair gwaith yr wythnos ac yn gwneud defnydd o’r ardaloedd cymunedol sydd yn Fron Deg yn ddyddiol. Mae’r ardaloedd cymunedol yn Fron Deg yn rhoi cyfle i gymuned ddatblygu ac yn rhoi canolbwynt i fywyd cymdeithasol nifer o’n tenantiaid. Gwenda sydd yn cynnal y nosweithiau bingo wythnosol ac yn helpu gyda digwyddiadau fel bore crempog, tê prynhawn Sant Ffolant, trefnu y ‘bonus ball’ a tombola i’r tenantiaid. 

“Mae’n gret cael lle i bawb ddod at eu gilydd.”

Mae problemau iechyd wedi golygu nad ydy Gwenda wedi byw ei hun ers tro, ond mae byw yma a chael y gefnogaeth gan Nia a chyfeillgarwch gyda’r tenantiaid eraill wedi ei helpu i fyw yn annibynnol: 

“Dwi’n hapus efo cwmni pobl o gwmpas, dwi wrth fy modd yn cael helpu efo’r gwahanol digwyddiadau, mae byw yma di rhoi gymaint mwy o hyder i fi”

Mae perthynas Gwenda a Nia wedi rhoi  hyder iddi fyw’n annibynnol, gan wybod bod cymorth ar gael pan fo ei angen. Gyda’r gefnogaeth hon, a gan fod Fron Deg yng nghanol Pwllheli, mae Gwenda yn mwynhau cymdeithasu’n rheolaidd gyda’i chymdogion ac yn cymryd rhan yn y gweithgareddau cymunedol sy’n dod â phawb at eu gilydd. Mae’r awyrgylch cynnes a’r cyfleoedd i gysylltu ag eraill wedi gwneud i Fron Deg deimlo fel cartref go iawn iddi, ac mae’r gwahaniaeth yn ei hyder a’i lles yn amlwg i bawb. 

Wrth i Fron Deg nodi dwy flynedd ers agor, mae profiadau Gwenda yn dangos mor werthfawr ydy’r cynllun i’r dref. Mae’r gymysgedd o gefnogaeth bwrpasol gan Nia, y gofodau cymunedol bywiog a lleoliad canolog y fflatiau yn galluogi trigolion i fyw’n annibynnol, ond byth ar eu pen eu hunain. Mae stori Gwenda yn dystiolaeth o’r hyn sy’n bosibl pan fo tai, gofal a chymuned yn dod at eu gilydd.