Tenant wrth ei bodd yn Frondeg – ac wrth ei bodd gyda ffotograffiaeth

“Dwi’n caru byw yn Frondeg a dwi’n cael yr holl gymorth sydd ei angen arnaf, sy’n golygu bod fy rhieni’n hapusach”

Dyna eiriau Amanda o Bwllheli sydd wedi byw yn Frondeg, ein safle tai â chymorth ers ychydig dros flwyddyn.

Cafodd Amanda ddiagnosis o diwmor yn y coesyn ymennydd pan oedd hi’n 18 oed tra gyda’r awyrlu. Dros y blynyddoedd, gwaethygodd y cyflwr a’i symptomau a bu ymdrechion i godi arian i dalu am therapi a thriniaeth.

Oherwydd ei chyflwr, mae ganddi broblemau gyda symudiad ar ochr dde ei chorff, sy’n golygu ei bod hi’n cael anhawster gyda rhai agweddau o fywyd pob dydd.

Nia yw’r Swyddog Tai â Chymorth yn Frondeg ac mae hi yno dair gwaith yr wythnos i helpu Amanda a’n holl denantiaid eraill gyda beth bynnag sydd ei hangen arnyn nhw.

Dywedodd Amanda: “Mae Nia yn sicrhau fy mod i’n cael yr holl addasiadau sydd eu hangen arna i.  Mae gen i ddrws ffrynt trydan newydd sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr, ac mae canllawiau yn  coridor. Yn y gegin mae’r sinc a’r popty yn mynd i fyny ac i lawr, felly os ’dwi’n sefyll neu’n eistedd i lawr, gallaf goginio a glanhau heb broblem”.

Un o hobiau Amanda yw ffotograffiaeth. Er bod ganddi broblemau symudedd ar ei hochr dde, mae Amanda wedi dysgu ei hun i symud ei llaw mewn ffordd y gall dynnu lluniau gyda’i chamera.

“Roedd fy ffrind eisiau ymuno â chlwb chamera 7 mlynedd yn ôl ond doedd hi ddim eisiau mynd ar ei phen ei hun, felly es i gyda hi ac roeddwn i wrth fy modd.

“Yn fuan wedyn gadawodd hi, ac arhosais i.

“Dydw i ddim wedi bod yn mynd allan i dynnu lluniau yn ddiweddar, felly penderfynodd Nia a Gwenda i drefnu bore coffi lle gallwn ddangos fy lluniau, a gallai pawb yma ddod i gael golwg arnyn nhw.

“Mae Nia wedi rhoi’r hyder i mi gydio mewn ffotograffiaeth eto ac mae hi’n mynd a fi allan yr wythnos nesaf o amgylch Pwllheli i dynnu lluniau.  Mae’n dda oherwydd os ydw i allan yn tynnu lluniau, golygu a fframio nhw, mae’n golygu nad ydw i’n diflasu ac mae’n fy nghadw i’n brysur”.