Tenantiaid Trem yr Wyddfa yn canmol gwaith adnewyddu
Mae cam olaf buddsoddiad sylweddol mewn cartrefi yn Trem yr Wyddfa, Penygroes wedi’i gwblhau, gyda thenantiaid wrth eu bodd gyda’r gwaith.
Dechreuodd y gwaith yn ôl ym mis Mawrth i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi, gyda 48 tŷ a 10 bynglo yn derbyn gwaith.
Dros y saith mis diwethaf a thros dair cam gwahanol, rydym wed gosod inswleiddio waliau allanol, disodli ffenestri a drysau gyda gwydr dwbl, ail-balmantu llwybrau ac ail-osod gatiau, tra hefyd wedi uwchraddio’r toeau’n llwyr, disodli llinellau to, gwteri, soffitiau ac ailstrwythuro simneiau.
Mae nifer o’r tenantiaid sy’n byw ar y stâd wedi cysylltu â ni ers i’r gwaith gael ei orffen.
Rhywfaint o’r adborth a gawsom:
“Mae golwg y tai wedi newid er gwell, a bydd pawb yn gynhesach y gaeaf nesaf, rwy’n siŵr.
“Mae’r holl weithwyr wedi bod mor barchus ac nid oedd dim yn ormod o drafferth os oedd angen ail-wneud unrhyw beth”.
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gwyn, Jona a’r tîm, o grŵp Adra ym Mhenygroes am y gwaith rhagorol maen nhw wedi’i wneud ar fy nhŷ yn Nhrem yr Wyddfa, mae wedi bod yn bleser cael nhw’n gweithio ar y tŷ”.
“Hoffwn ddiolch i Jona a’i dîm, maen nhw wedi gwneud gwaith anhygoel ac wedi bod yn broffesiynol iawn. Diolch hefyd am y parch a ddangoswyd i’m gwraig a’m plant gan yr holl fechgyn. Mae’r tŷ’n edrych yn hyfryd. Diolch eto.”

