Tîm Cydymffurfio ar y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog
Llongyfarchiadau i’r tîm Cydymffurfio am gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol.
Maent wedi’u henwi ar restr fer Gwobrau Diogelwch a Chydymffurfio (ASCP) am eu gwaith i amddiffyn diogelwch a lles ein tenantiaid.
Mae’r cais yn amlygu sut rydym yn rheoli y 6 maes allweddol mawr o amgylch diogelwch nwy, diogelwch trydan, diogelwch tân, rheoli asbestos, diogelwch dŵr (legionella), lifftiau a chyfarpar codi – yn ogystal â radon.
Mae’r cais hefyd yn amlygu:
- Ein gweithgaredd cydymffurfio o ddydd i ddydd a monitro perfformiad
- Gwell data a phroffilio risg
- Llywodraethu cryf ar draws y sefydliad a gyda’n Bwrdd
- Rheoli ansawdd drwy ein hachrediadau ISO
- Ein rôl ranbarthol yn arwain Bwrdd Cydymffurfio Gogledd Cymru
- Ymgysylltiad cryf â’r tenantiaid a chyfathrebu.
Dywedodd Ian Roberts, Pennaeth Eiddo (Refeniw): “Rydym yn falch gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau mawreddog hyn,
“Yn Adra, rydym wedi adeiladu diwylliant cydymffurfio cryf a dibynadwy lle mae cael y sylfaen yn iawn yn hollbwysig a lle mae tenantiaid yn cael eu cadw yn ddiogel o ganlyniad i benderfyniadau, ymddygiadau, a gweithredoedd bob dydd.
“Mae hyn yn adlewyrchu ein perfformiad cryf, fel y tystir gan ein hymateb rheoleiddiol presennol a’n Statws Sicrhau Risg Cyffredinol (RAG) ar gyfer gwiriadau iechyd a diogelwch landlord, sy’n sefyll ar 99.23% ar gyfer 2025-2026.
“Ni chaiff diogelwch a chydymffurfiaeth eu hystyried yn swyddogaethau arbenigol neu arwahan; maent wedi’u hymgorffori yn ein DNA ac yn ein gwaith bob dydd, wedi’u cefnogi gan lywodraethiant cadarn ac wedi’u hatgyfnerthu drwy ddiwylliant sefydliadol.
“Mae cydymffurfiaeth yn cael ei ddeall a’i berchnogi gan gydweithwyr ledled y sefydliad drwy ymagwedd gref ‘Un Tîm’, sy’n cyd-fynd â’n Cynllun Corfforaethol.
“Rwy’n hynod falch o’r gwaith sydd wedi cael ei gyflawni gan y tîm i ddiogelu diogelwch tenantiaid, yn ogystal ag ymrwymiad ledled y cwmni i wneud gwahaniaeth.
“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu nid yn unig gwaith y 12 mis diwethaf, ond hefyd blynyddoedd o ymdrech barhaus, gan gynnwys cyfraniadau gan staff presennol a chydweithwyr nad ydynt bellach yn gweithio yn Adra, a helpodd i adeiladu’r sylfeini cryf sydd yn eu lle heddiw.
“Mae hefyd yn dangos ymrwymiad parhaus Adra i fuddsoddi’r adnoddau angenrheidiol i sicrhau bod ein perfformiad cydymffurfio yn aros ar y lefel uchaf. Nid damwain yw cyflawni 99.23% – mae’n adlewyrchu blaenoriaeth sefydliadol glir bod cydymffurfiaeth a diogelwch tenantiaid gwastad yn dod yn gyntaf”.
“Mae cael ein rhestru ar gyfer y wobr yn wych – croesi bysedd am lwyddiant yn y noson”.
Bydd y gwobrau yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd fis Medi.
