Tîm Cydymffurfio yn derbyn gwobr fawreddog

Llongyfarchiadau i’r tîm Cydymffurfio am dderbyn gwobr Tîm Diogelwch a Chydymffurfiaeth y Flwyddyn yng ngwobrau ASCP 26 am eu gwaith i amddiffyn diogelwch a lles ein tenantiaid.

Roedd y cais yn amlygu sut rydym yn rheoli y 6 maes allweddol mawr o amgylch diogelwch nwy, diogelwch trydan, diogelwch tân, rheoli asbestos, diogelwch dŵr (legionella), lifftiau a chyfarpar codi – yn ogystal â radon.

Mae’r cais hefyd yn amlygu:

  • Ein gweithgaredd cydymffurfio o ddydd i ddydd a monitro perfformiad
  • Gwell data a phroffilio risg
  • Llywodraethu cryf ar draws y sefydliad a gyda’n Bwrdd
  • Rheoli ansawdd drwy ein hachrediadau ISO
  • Ein rôl ranbarthol yn arwain Bwrdd Cydymffurfio Gogledd Cymru
  • Ymgysylltiad cryf â’r tenantiaid a chyfathrebu.

Cafodd y wobr ei chyflwyno mewn seremoni yng Nghasnewydd.

Llun o bedwar dyn yn derbyn gwobr

Dywedodd Ian Roberts, ein Pennaeth Eiddo (Refeniw): “Roeddem wrth ein bodd yn cael ein coroni’r enillwyr a derbyn cydnabyddiaeth gan y sector am y gwaith rydym yn ei wneud i warchod iechyd a lles ein tenantiaid.

“Rydym wedi creu diwylliant cydymffurfio cryf a dibynadwy lle mae cael y sylfaen yn iawn yn hollbwysig a lle mae tenantiaid yn cael eu cadw yn ddiogel o ganlyniad i benderfyniadau, ymddygiadau, a gweithredoedd bob dydd.

“Mae hyn yn adlewyrchu ein perfformiad cryf, fel y tystir gan ein hymateb rheoleiddiol presennol a’n Statws Sicrhau Risg Cyffredinol (RAG) ar gyfer gwiriadau iechyd a diogelwch landlord, sy’n sefyll ar 99.23% ar gyfer 2025-2026.

“Ni chaiff diogelwch a chydymffurfiaeth eu hystyried yn swyddogaethau arbenigol neu arwahân; maent wedi’u hymgorffori yn ein DNA ac yn ein gwaith bob dydd, wedi’u cefnogi gan lywodraethiant cadarn ac wedi’u hatgyfnerthu drwy ddiwylliant sefydliadol.

“Mae cydymffurfiaeth yn cael ei ddeall a’i berchnogi gan gydweithwyr ledled y sefydliad drwy ymagwedd gref ‘Un Tîm’, sy’n cyd-fynd â’n Cynllun Corfforaethol.

“Rwy’n hynod falch o’r gwaith sydd wedi cael ei gyflawni gan y tîm i ddiogelu diogelwch tenantiaid, yn ogystal ag ymrwymiad ledled y cwmni i wneud gwahaniaeth.

“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu nid yn unig gwaith y 12 mis diwethaf, ond hefyd blynyddoedd o ymdrech barhaus, gan gynnwys cyfraniadau gan staff presennol a chydweithwyr nad ydynt bellach yn gweithio yn Adra, a helpodd i adeiladu’r sylfeini cryf sydd yn eu lle heddiw”.