Torri’r dywarchen yn nodi dechrau 49 o gartrefi fforddiadwy newydd ym Modelwyddan
Mae seremoni torri’r dywarchen wedi nodi dechrau datblygiad diweddaraf Adra o 49 o gartrefi fforddiadwy ym Modelwyddan yn swyddogol.
Mae’r cynllun yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal a bydd yn darparu cartrefi o ansawdd uchel, effeithlon o ran ynni i bobl leol.

Wedi’i leoli ar Ffordd Abergele, mae’r datblygiad yn cael ei gyflawni gan y prif gontractwr Wynne Construction, gyda chefnogaeth gan Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Dinbych.
Bydd y datblygiad yn cynnwys cymysgedd o gartrefi cymdeithasol a rhent canolraddol wedi’u cynllunio i ddiwallu amrywiaeth o anghenion tai lleol, gan helpu mwy o deuluoedd ac unigolion i gael mynediad at gartrefi diogel, modern a fforddiadwy yn eu cymuned.
Daeth cynrychiolwyr o Adra ynghyd â phartneriaid y prosiect, ynghyd ar y safle i nodi dechrau’r gwaith.

Dywedodd Elliw, Uwch Reolwr Prosiect Adra: “Rydym wrth ein bodd yn dechrau gweithio ar y datblygiad pwysig hwn ym Modelwyddan.
“Bydd y 49 eiddo fforddiadwy newydd yma yn darparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel sydd eu hangen yn fawr ar bobl leol, gan gynnig sefydlogrwydd hirdymor tenantiaeth ddiogel, gan roi’r cysondeb a’r hyder sydd eu hangen ar drigolion i adeiladu cysylltiadau cryf ac iach o fewn eu cymuned.
“Mae torri’r dywarchen heddiw yn garreg filltir gyffrous, ac edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn datblygu dros y misoedd nesaf.
“Mae cymaint o alw am dai fforddiadwy yn Sir Ddinbych a gogledd Cymru, sy’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol. Mae Adra wedi gwneud ymrwymiad cadarn yn ein Cynllun Corfforaethol i adeiladu cartrefi newydd y gall pobl leol fod yn falch ohonynt, sy’n effeithlon o ran ynni, o ansawdd uchel ac yn fforddiadwy o ran costau rhent a gwresogi.”
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Wynne Construction, Chris Wynne: “Mae dechrau gweithio ar y datblygiad tai pwysig hwn yn gyffrous iawn, yn enwedig gan ei fod wedi’i leoli mor agos at ein pencadlys yma ym Modelwyddan.
“Mae hefyd yn bleser gweithio unwaith eto gyda’n cleient gwerthfawr, Adra, yn dilyn llwyddiant ein prosiectau diweddar gyda’n gilydd ym Mangor. Rwy’n hyderus y bydd ein tîm yn cyflawni cynllun arall o ansawdd uchel ac yn cyflawni canlyniadau rhagorol, gan weithio mewn partneriaeth â’n cadwyn gyflenwi leol.
“Rydym yn bwriadu gweithio’n agos gyda thrigolion drwy gydol y cyfnod adeiladu i helpu i leihau unrhyw aflonyddwch.”
Disgwylir i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2028 gyda’r disgwyl i’r preswylwyr cyntaf symud i mewn yn fuan wedi hynny.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cartref rhent cymdeithasol, cofrestrwch gyda SARTH: 01824 712911 / Ymgeisio am dai cymdeithasol | Cyngor Sir Ddinbych
Os oes gennych ddiddordeb yn yr opsiwn rhent canolraddol, bydd angen i chi gofrestru gyda Tai Teg: www.taiteg.org.uk
