Tŷ Gwyrddfai yn lansio menter Tendra i gefnogi busnesau adeiladu lleol
Mae Tŷ Gwyrddfai yn falch o ddatgelu ei fenter ddiweddaraf sydd â’r nod o feithrin twf a datblygiad o fewn y sector adeiladu lleol.
Mae Tendra wedi’i ariannu gan Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru, ac wedi’i chynllunio i helpu busnesau lleol i dyfu, datblygu a chael mynediad at gyfleoedd newydd. Bydd y fenter yn cyflwyno cyfres o sesiynau hyfforddi ymarferol i wella sgiliau, cryfhau capasiti a pharatoi busnesau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol gyda Adra a sefydliadau sector cyhoeddus eraill.
Gan gydnabod yr heriau sy’n gwynebu cwmnïau adeiladu bach, yn enwedig y cymhlethdodau gweinyddol sy’n gysylltiedig â phrosesau tendro, mae Tendra yn anelu at chwalu’r rhwystrau hyn. Gyda’r slogan “Adeiladu’r dyfodol, un tendr ar y tro,” bydd y prosiect yn cefnogi busnesau i lywio’r gwaith papur, meithrin hyder, a chyflwyno cynigion llwyddiannus am waith, gan gynnwys contractau mwy trwy lwyfannau fel GwerthwchiGymru.
Drwy gydol 2026, bydd Tendra yn cyflwyno rhaglen o weithdai am ddim wedi’u teilwra i anghenion busnesau adeiladu bach. Bydd y pynciau’n cynnwys:
- Deall gweithdrefnau tendro Adra
- Prisio prosiectau’n effeithiol
- Sicrhau achrediadau perthnasol
- Blaenoriaethu iechyd a diogelwch
- Deall gwerth cymdeithasol
- Defnyddio AI i gryfhau cyflwyniadau tendr
- Cyflwyniad i Sero Net a chynllunio lleihau carbon
Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i arfogi cyfranogwyr â’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ffynnu mewn diwydiant sy’n gynyddol gystadleuol.
Dywedodd Rhys Roberts, Rheolwr Busnes a Datblygu Tŷ Gwyrddfai, sy’n arwain y fenter: “Rydym yn falch o lansio menter Tendra, gan gefnogi twf cynhwysol a helpu busnesau adeiladu bach i ffynnu.
“Byddwn yn gweithio’n agos â busnesau, gan eu tywys trwy waith papur a phrosesau gyda chefnogaeth ymarferol a chyngor clir, wedi’i deilwra i feithrin hyder wrth wneud cais am waith newydd.
“Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn cynnig mynediad at adnoddau a chyfleoedd rhwydweithio sy’n agor drysau ac yn cefnogi llwyddiant hirdymor.
“Bydd y menter hwn yn helpu i gadw buddsoddiad yn lleol, yn cefnogi cyflogaeth pobl leol, ac yn cyfrannu at ddiogelu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg trwy alluogi mynediad at swyddi o safon yn ein cymunedau.”
Bydd y fenter yn cyrraedd uchafbwynt gyda digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr, gan ddod â chymdeithasau tai a phrynwyr eraill yn y sector adeiladu ynghyd i arddangos eu prosiectau ar y gweill ar gyfer y 12 mis nesaf.
Anogir perchnogion busnesau bach yn y sector adeiladu sydd am gael gwybod am weithdai a digwyddiadau sydd ar ddod i gofrestru eu diddordeb. I wneud hynny, anfonwch e-bost at info@tygwyrddfai.cymru neu cofrestwrch eich diddordeb yma: Tendra 2026
