Boiler being commissioned,

Wythnos Diogelwch Nwy

Wythnos hon yw Wythnos Diogelwch Nwy, nodyn amserol i ni i gyd aros yn ddiogel a bod yn rhagweithiol o ran offer nwy.

Mae’n bwysig ein bod yn cael mynediad i’ch cartrefi er mwyn gallu sicrhau bod eich boeler yn cael ei wirio a’i wasanaethu’n flynyddol gan un o’n peirianwyr cofrestredig Gas Safe.

Gall offer nwy nad ydynt wedi’u cynnal a’u cadw’n iawn achosi gollyngiadau nwy, tanau, ffrwydradau a gwenwyn carbon monocsid (CO). Yn aml mae carbon monocsid yn cael ei gyfeirio ato fel y ‘laddwr tawel’ oherwydd ni allwch ei weld, ei arogli na’i flasu. Felly, mae’n hynod bwysig i beiriannydd sydd wedi’i restru ar y Gofrestr Diogelwch Nwy wirio a gwasanaethu offer nwy.

Diogelwch tenantiaid yw ein prif flaenoriaeth, mae’n bwysig iawn ein bod yn cael mynediad i’n heiddo er mwyn cynnal gwasanaeth boeler blynyddol a gwiriadau diogelwch nwy.

Nid yn unig mae’n ofyniad cyfreithiol i ni fel landlord sicrhau bod yr holl foeleri yn ein heiddo yn cael eu gwasanaethu’n flynyddol, er mwyn sicrhau eich diogelwch. Mae gwasanaethu blynyddol hefyd yn sicrhau bod y boeler yn gweithredu mor effeithlon â phosibl, sydd yn ei dro yn lleihau cost gwresogi’r cartref. Gall hefyd helpu i nodi a thrwsio unrhyw fân broblemau, a all atal problemau mwy yn y dyfodol.

Peidiwch â’i adael i siawns, gadewch i ni wasanaethu eich boeler yn flynyddol.