Wythnos Prentisiaethau 2026

Mae’r Wythnos Prentisiaethau yn gyfle gwych i ni ddathlu talentau, llwybrau gyrfa ysbrydoledig a’r cyfleoedd hyfforddi unigryw rydym ni’n eu cynnig ar draws y sefydliad. Rydym yn hynod falch o gyfraniad ein prentisiaid a’n hyfforddai, maent yn rhan allweddol o’n gweithlu.

Ar hyn o bryd, mae gennym bum prentis ac un hyfforddai o fewn ein gwasanaeth Eiddo:

  • 2 Brentis Trydanwr
  • 2 Brentis Saer
  • 1 Prentis Plymwr
  • 1 Hyfforddai Plastro

Llwybr ysbrydoledig Luke  

Un o’n llwyddiannau mwyaf disglair yw Luke, sydd bellach wedi bod yn rhan o’r tîm ers pedair blynedd ar ôl ein gweld mewn Ffair Swyddi lleol. Yn dilyn cwblhau ei brentisiaeth, treuliodd Luke flwyddyn fel hyfforddai, ac erbyn hyn mae’n gweithio llawn amser gyda ni fel plastrwr. Er mwyn cyrraedd y pwynt yma yn ei yrfa mae Luke wedi cwblhau hyfforddiant yng Ngholeg Menai a chwrs arbenigol Internal Weber. Mae wedi ennill profiad ymarferol gyda’n timau ar draws gogledd Cymru ac mae’n parhau i ddatblygu sgiliau ac i feistroli’r grefft o blastro. Rydym ni’n hynod falch o daith Luke, mae’n enghraifft wych o sut mae cyfleoedd prentisiaeth yn gallu agor drysau i yrfa werth chweil.

Hyfforddai Tai, buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf  

Rydym hefyd yn falch o Beca, Hyfforddai Tai sydd yn gweithio gyda ni dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae hi’n cael profiad eang ar draws pedair adran wahanol:

  • Bro
  • Rhent
  • Gosod
  • Datblygu Busnes

Mae ei rhaglen yn cynnig cyfuniad o ddysgu ymarferol ac academaidd gan gynnwys astudio cwrs CIH tra’n ennill cyflog. Mae’n gynllun llwyddiannus sydd wedi ei sefydlu nol yn 2018 a rydym yn falch iawn o’i weld yn mynd o nerth i nerth. Mae nifer o’n hyfforddai tai yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i swyddi llawn amser yn y sector, nifer dal yma yn Adra ac yn adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn y byd tai.

 

Yn draddodiadol roedd prentisiaethau yn cael eu cysylltu â swyddi ymarferol fel trydanwyr a saeri coed ond mae ein cyfleoedd prentisiaethau ni ar gael ym mhob maes, mae Joel Roberts yn y tîm TG, ac yn dilyn llwybr gwahanol ond cyffrous fel Prentis Gradd. Mae Joel yn ei ail flwyddyn o gwrs BSc (Hons) Applied Software Engineering, Degree Apprenticeship, ac yn dod â sgiliau technoleg hanfodol i’n sefydliad.

 

Rydym ni wedi ymrwymo i gynnig 700 o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau gwaith fel rhan o’n Cynllun Corfforaethol. Mae ein prentisiaid presennol, ac alumni fel Luke, yn dystiolaeth o effaith y weledigaeth hon. I barhau a’n hymrwymiad, rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn recriwtio pedwar rôl prentisiaeth newydd i ddechrau ym mis Awst 2026:

  • Prentis Trydanwr
  • Prentis Saer
  • Prentis Plastrwr
  • Prentis Plymwr

Bydd y cyfleoedd yma yn cynnig llwybr i bobl leol ddechrau ar yrfa ym myd tai, gyda chefnogaeth lawn ein timau profiadol.