Y gwir am dai Gwarchod: y Gwir wahaniaeth o gael Swyddog ar safle

Mae gennym nifer o safleoedd Tai Cefnogol ar draws gogledd Cymru. Mae’r safleoedd yma yn cynnig cartrefi cyfforddus a diogel i bobl sydd eisiau byw yn annibynnol gyda thawelwch meddwl fod cefnogaeth hefyd ar gael.  

Wythnos diwethaf aethom draw i Lys yr Eifl, Caernarfon i sgwrsio gyda rhai o’r tenantiaid sy’n derbyn gwasanaeth ein Swyddog Tai Cefnogol yno.  Un neges amlwg oedd:  

“Mi fysan ar goll heb Simone.” 

Simone ydy ein Swyddog Tai Cefnogol yn Llys yr Eifl. Braf oedd clywed tenantiaid yn sôn o’r galon am sut mae hi wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau yn ddyddiol. Mae eu geiriau yn amlygu un peth, fod pobl yn camddeall beth ydy bywyd efo Swyddog Tai Cefnogol. 

Heddiw rydym eisiau taclo hyn. 

Rydym yn falch iawn o waith ein Swyddogion Tai Cefnogol. Mae eu cymorth yn helpu ein tenantiaid deimlo yn ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn iddynt. Mae hyn yn rhywbeth gwerthfawr yr hoffem ei weld yn parhau. 

Roedd y sgwrs yma dros banad yn Llys yr Eifl yn ein hatgoffa fod Tai Cefnogol yn fwy na darparu cartref. Bod cefnogaeth, urddas a chymuned i gyd yn rhan o hyn. Ac mae hynny yn rhywbeth sydd werth ei ddathlu. 

Myth 1 “Cwbl mae Swyddog Tai Cefnogol yn ei wneud ydy galw draw unwaith yr wythnos” 

Gwirionedd: Mae rôl Swyddog Tai Cefnogol gymaint mwy na hyn. 

Mae swyddogion fel Simone yn cefnogi tenantiaid efo tasgau bach ymarferol bob dydd.  Soniodd Heulwen ei bod wedi cael pecyn Sky newydd a’i bod methu gwneud pen na chynffon o’r cyfarwyddiadau. “ Dwni’m be ‘swn i wedi wneud heblaw am Simone, nath hi helpu i sortio fo, petha bach fel hyn sy’n gwneud bywyd yn haws.” meddai Heulwen 

Gall Swyddogion hefyd adnabod pryderon yn fuan a chynnig cyngor. Mae’n dawelwch meddwl.   

Tawelwch meddwl sy’n ymestyn i’r teulu estynedig hefyd.  

“Mae cefnogaeth Simone yn rhoi tawelwch meddwl i fi a fy nheulu, maen nhw yn gwybod ei bod yma ac yn cadw golwg arna i ac y bydd yn cysylltu os oes unrhyw broblem neu bryder.” meddai Mary.  

 

Myth 2 : Mae Tai Cefnogol ar gyfer pobl sydd methu byw yn annibynnol”   

Gwirionedd: I’r gwrthwyneb! Mae tenantiaid Llys yr Eifl yn byw yn gwbl annibynnol . Mae Swyddog Tai Cefnogol yn eu helpu i fyw yn annibynnol yn hytrach na bod yn ddibynnol.  

Mae’r gwasanaeth yn cynnig diogelwch, tawelwch meddwl ac wyneb cyfeillgar sy’n deall eu hanghenion, sydd yn ei dro yn helpu ein tenantiaid i fyw yn annibynnol yn hirach.   

Mae Simone hefyd yn trefnu llu o weithgareddau yn rheolaidd yn y ganolfan gymunedol.  O’r clwb garddio, i bingo, i ‘chairaerobics’ i ginio Pasg mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’r ganolfan yn hwb sy’n dod a phawb at ei gilydd. “Mi symudais i yma o ardal wahanol i fod yn agosach at fy nheulu. Mi wnaeth Simoned fy annog i ymuno a’r gweithgareddau a dwi mor falch o hynny. Dwi wedi gwneud ffrindia am oes yma!’ meddai Mary. 

Mae dylanwad Simone i’w deimlo tu draw i un ymweliad wythnosol.  

Rydym yn falch iawn o’r gwaith mae ein Swyddogion Tai Cefnogol yn ei wneud yn ddyddiol. Mae’r gefnogaeth yma yn helpu ein tenantiaid ymgartrefu a theimlo yn ddiogel yn eu cartref. 

Os hoffech chi neu aelod o’ch teulu fyw mewn cartref gyda chefnogaeth Swyddog Tai Cefnogol, cymerwch olwg ar y Tai Cefnogol sydd ar gael i’w gosod ar hyn o bryd: