Ymestyn partneriaeth sgiliau ôl-osod gyda Saint-Gobain
Rydym ni a Saint-Gobain UK wedi ymestyn ein partneriaeth sgiliau ôl-osod i helpu trigolion, pobl ifanc a chontractwyr ledled Gogledd Cymru i ennill y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i wella cartrefi, lleihau defnydd ynni a chefnogi amodau byw iachach a mwy cyfforddus.
Mae’r bartneriaeth yn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi cymryd lle i godi ymwybyddiaeth o sut y gall y rhaglen ôl-osod wella hyfforddiant a lleihau biliau ynni.
Bydd y bartneriaeth yn parhau i gefnogi hyfforddiant ymarferol cydnabyddedig a chymwysterau trwy Dŷ Gwyrddfai, yr hwb ddatgarboneiddio a ddatblygwyd gennym ni, Busnes@LlandrilloMenai a Phrifysgol Bangor. Bydd hefyd yn helpu pobl leol a chontractwyr i adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni gwaith ôl-osod o ansawdd uchel ledled y rhanbarth.
Trwy’r bartneriaeth hyd yma mae 200 o ddysgwyr wedi cael eu cefnogi gyda’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gyflwyno prosiectau ôl-osod o’r ansawdd uchaf ac i wella tai presennol.
Mae Tŷ Gwyrddfai wedi cynnal digwyddiadau cymunedol, ac ar gyfer colegau ac ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth am y gwaith o drawsnewid tai i’w gwneud yn fwy cyffyrddus ac i’w gwneud yn fwy ynni effeithlon.
Bydd y bartneriaeth yn parhau tan o leiaf 2028 gyda’r sefydliadau yn chwilio am fwy o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau ôl-osod ledled Gogledd Cymru.
Dros y ddwy flynedd nesaf, disgwylir i’r rhaglen gefnogi 320 o ddysgwyr ychwanegol, 300 o gontractwyr a 130 o fusnesau, gan helpu i hyfforddi mwy o bobl leol, cyflenwi mwy o gontractwyr, creu mwy o lwybrau i adeiladu cynaliadwy ar gyfer pobl ifanc a galluogi mwy o gymunedau i elwa o dai mwy cynnes, iachach a charbon isel.

Dywedodd Jason Smith, Cyfarwyddwr gyda Saint-Gobain DU ac Iwerddon: ‘Ni ellir ymdrin â’r her adnewyddu gan ddefnyddio cynhyrchion yn unig – mae hefyd angen buddsoddi mewn pobl a sgiliau ymarferol. Trwy ymestyn ein partneriaeth gydag Adra, gallwn barhau i gefnogi trigolion lleol, pobl ifanc a chyfranddalwyr gyda’r wybodaeth ymarferol sydd ei hangen i wella tai ledled Gogledd Cymru.
“Mae hyn yn ymwneud â magu hyder a gallu gweithlu medrus a all helpu i ddarparu tai mwy cynnes, iachach a mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.’
“Mae’r bartneriaeth yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach Saint-Gobain i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r gallu sydd eu hangen i gyflymu adnewyddu a chefnogi ymdrechion y Deyrnas Unedig i symud tuag at adeiladwaith mwy cynaliadwy”.
Dywedodd Rhys Roberts, Rheolwr Busnes a Datblygu Tŷ Gwyrddfai: “Mae’r bartneriaeth hon yn helpu i adeiladu’r sgiliau lleol sydd eu hangen i wella tai ledled Gogledd Cymru.
“Drwy weithio gydag arbenigwyr fel Saint-Gobain a’n partneriaid yn Nhŷ Gwyrddfai, gallwn barhau i gefnogi preswylwyr, contractwyr, ein gweithlu a phobl ifanc gyda hyfforddiant ymarferol sy’n cyfrannu at dai mwy cynnes, mwy effeithlon a chymunedau lleol cryfach.”
