Llun o Hywel Eifion Jones, Sasha Davies a Dafydd Edwards

Ymunwch â Bwrdd Adra: Helpu i lunio dyfodol tai yng ngogledd Cymru

Sasha Davies, Cadeirydd y Bwrdd:

Ymunais â bwrdd Adra yn ôl ym mis Mehefin 2021 ac yn ddiweddar cefais fy ethol yn Gadeirydd y Bwrdd. Mae’n saff i ddweud fod y pedair blynedd a hanner diwethaf wedi bod yn hynod werthfawr.

Rydym yn gymdeithas dai uchelgeisiol a blaengar, gyda un nod clir: darparu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy o ansawdd uchel ledled gogledd Cymru. Mae ein Cynllun Corfforaethol newydd yn rhestru targedau i ddiwallu’r angen cynyddol am gartrefi yn y rhanbarth. Nid yn unig rydym yn cynnal gwasanaethau rhagorol, rydym yn adeiladu cartrefi newydd sy’n cryfhau cymunedau ac yn trawsnewid bywydau.

Mae ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn. Mae pob penderfyniad a wnawn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i bobl a lleoedd, ac rydym yn angerddol am ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion yn wirioneddol.

Rydym hefyd yn paratoi i fodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru 2 (WHQS2) ac wedi gosod targedau datgarboneiddio uchelgeisiol ar gyfer ein cartrefi. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n haddewid i greu cartrefi cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Anweithredol annibynnol i ymuno â’n Bwrdd. Mae hwn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n chwarae rhan allweddol wrth lunio tai ledled gogledd Cymru. Rydym yn arbennig o awyddus i ymgeiswyr sydd â phrofiad mewn llywodraethu corfforaethol, cyfreithiol, cydymffurfiaeth, neu feysydd tebyg, bydd eich arbenigedd yn ein helpu i gynnal llywodraethu cryf a chyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol.

Rydym wedi ymrwymo i adeiladu Bwrdd amrywiol a byddem yn croesawu ceisiadau gan ferched sydd eisiau dod â’u sgiliau a’u safbwyntiau i’r rôl bwysig hon.

Os ydych chi’n barod am her ac eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sector hanfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.