Ymweld ag ystadau Pwllheli
Yn ddiweddar, bu cydweithwyr yn ymweld â rhai o’n tenantiaid yn ardal Pwllheli fel rhan o’r rhaglen flynyddol o ymweliadau â’n hystadau.
Mae diwrnodau fel hyn yn rhoi cyfle i’n tenantiaid sgwrsio, rhannu barn, gofyn am unrhyw gymorth a chael y cyfle i ofyn cwestiynau i ni wyneb yn wyneb.
Bu’r tîm yn ymweld â 78 o dai a thenantiaid ar hyd ffyrdd ac ystadau Lôn Abererch, Tir Tywod, Ffordd y Maer a chanran o gartrefi ym Morfa Garreg.
Unwaith eto bu’r diwrnod yn un hynod o lwyddiannus ac roedd nifer fawr o’n tenantiaid yn hapus i gael y cyfle i sgwrsio a lleisio eu barn.
