Cartrefi newydd yng Nghyffordd Llandudno

Rydym ni, darparwr tai cymdeithasol a fforddiadwy mwyaf gogledd Cymru yn cydweithio hefo Beech Developments i adeiladu 29 o dai fforddiadwy newydd yng Nghyffordd Llandudno.

Bydd cynlluniau amrywiol ar gael fel Rhentu i Brynu yn ogystal â rhentu fforddiadwy a’r farchnad agored.

Bydd gan y datblygiad newydd yn Narrow Lane, yr un cymeriad ac edrychiad â’r gymuned sydd yno ar hyn o bryd a’r tai sydd wedi eu hadeiladu yn Gwêl y Mynydd.

Bydd pob tŷ sydd ar gael yn cael eu hadeiladu gyda lefelau uchel o effeithlonrwydd gan ein bod ni yn Adra yn credu bod gennym gyfrifoldeb i weithio’n gynaliadwy a chreu dyfodol gwyrdd. Bydd y datblygiad yn cynnwys y mathau yma o dai;- Ewloe – fflat bwthyn dwy ystafell wely – Caernarfon, tŷ tref tair ystafell wely. Chirk, tŷ pâr tair ystafell wely a Rhuddlan – tŷ dwy ystafell wely.

Dywedodd Daniel Parry, ein Cyfarwyddwr Datblygu:

“Mae Adra yn tyfu drwy adeiladu tai, creu swyddi a chyfleoedd ar draws gogledd Cymru.

“Rydym wedi bod yn gwneud ymdrech fawr i greu a datblygu mwy o dai am bris fforddiadwy i gyfarch yr angen tai lleol yng ngogledd Cymru.

“Rydym yn hapus iawn i fod yn gweithio mewn partneriaeth a pharhau’r berthynas weithio dda gyda Beech Developments. Mae defnyddio cwmnïau lleol a chyfrannu i’r economi leol yn bwysig iawn i ni.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Beech Developments, Matthew Gilmartin:

“Rydym yn falch iawn o fod yn bartner i Adra unwaith eto i adeiladu’r tai yma y mae pobl eu hangen.

“Gyda mwy na 1,100 o ymgeiswyr mewn angen tŷ fforddiadwy i’w rhentu yn sir Conwy a gyda’r cynlluniau amrywiol ar gael yn y datblygiad, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn pontio peth o’r bwlch rhwng y rhai sydd mewn angen tai effeithlon o ansawdd uchel, yng ngogledd Cymru.”

Byddwn hefyd yn cymryd wyth o dai ymlaen i’w gosod ar y farchnad agored. Ni fydd gostyngiad ar yr wyth tŷ yma, bydd y tai yn cael eu cadw i safon uchel a bydd tenantiaid yn dod drwy Asiant Eiddo.

Ble bynnag yr ydym yn adeiladu, rhentu neu werthu tai ar y farchnad agored, rydym yn creu arian i wario’n lleol ar dai fforddiadwy Newydd, uwchraddio, diweddaru ac ail wampio tai sydd gennym yn barod a darparu gwasanaethau i gefnogi ein cwsmeriaid a’n tenantiaid.

Os oes gennych ddiddordeb mewn tŷ fforddiadwy, mae’n hanfodol eich bod yn cofrestru gyda chofrestr tai fforddiadwy Tai Teg: taiteg.org.uk