Preifatrwydd

Diogelu Data (GDPR)

Mae Adra (Tai) Cyfyngedig yn rheolydd gwybodaeth bersonol at ddibenion Rheoliad Deddf Diogelu Data Cyffredinol.

Mae manylion ar sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth, sut yr ydym yn sicrhau diogelwch eich gwybodaeth, a’ch hawl i weld yr wybodaeth yr ydym yn ei gadw amdanoch, i’w cael yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn egluro beth i’w ddisgwyl wrth i Adra (Tai) Cyfyngedig brosesu eich gwybodaeth bersonol, yr egwyddorion sy’n sail i Ddeddf Diogelu Data,  sut yr ydym yn rheoli eich data fel eich bod yn llwyr ymwybodol o sut a pham yr ydym yn defnyddio eich data. Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd a bydd unrhyw ddiweddariadau ar ein gwefan; byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newid mawr i’r polisi hwn.

 

Darllen yr Hysbysiad Preifatrwydd llawn

Am wybodaeth bellach ar sut i wneud cais am eich gwybodaeth bersonol a pham a sut yr ydym yn prosesu eich gwybodaeth, mae modd i chi gysylltu gyda ni fel a ganlyn:

Swyddog Diogelu Data, Adra (Tai) Cyfyngedig , Tŷ Coch, Llys y Dderwen, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4BL

0300 123 8084 / GDPR@adra.co.uk

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd yn ffynhonnell o wybodaeth bellach am eich hawliau diogelu data. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gorff swyddogol annibynnol, ac un o’u prif swyddogaethau yw gweinyddu darpariaethau’r GDPR.

Mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych o’r farn ein bod wedi torri amodau GDPR. Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

0303 123 1113 / http://www.ico.org.uk/