Picture of The Old Palace from the outside with purple tuplis growing in the garden

Buddsoddi yn ein cartrefi yn Llanelwy

Rydym yn gyfrifol am ddarparu cartrefi ar sail fflatiau un ystafell yn Yr Hen Balas yn Llanelwy. Rydym wedi cynnal gwaith buddsoddi yno’n ddiweddar.  

Rydym yn deall pa mor bwysig ydi cartrefi ein cwsmeriaid. Rydym hefyd yn deall pa mor bwysig ydi ein bod yn parhau i fuddsoddi a gwario ar y tai sydd gennym yn ogystal ag adeiladu tai newydd o safon i gyfarch yr angen tai lleol.

Mae’r gwaith a wnaethom ar yr Hen Balas yn Llanelwy, sir Ddinbych yn cynnwys: 

  • Rhoi to newydd ar yr Hen Balas gwreiddiol  
  • Adnewyddu ffenestri 
  • Ail osod cerrig er mwyn tacluso 
  • Ail sefydlu’r corn simdde 

Mae gosod y ffenestri newydd yn digwydd ar hyn o bryd ac rydym yn falch o fod yn cydweithio â chontractwyr sef Claytons, i sicrhau gwaith o ansawdd uchel. Mae cadw’r bunt yn lleol, cyfrannu at yr economi lleol yn bwysig i ni. Dyma pam yr ydym yn gweithio gyda chontractwyr lleol sydd hefyd yn rhoi yn ôl i’n cymuned drwy ein cynllun gwerth cymdeithasol. Hoffem ddiolch i Claytons am y gwaith o ansawdd uchel. 

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’n cwsmeriaid sy’n byw yn Yr Hen Balas am fod yn amyneddgar tra mae’r gwaith yn cael ei gynnal.